Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Disgrifiad o’r prosiect

Mae gweithredu’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) yn brosiect 5.5 mlynedd, sy’n costio £32.67 miliwn a ariennir o dan Raglen Dwyrain Cymru 2014-2020 Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Bydd cyllid ERDF yn cyfrannu at y costau i sicrhau cyfarpar ac adnoddau ar gyfer Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) ym Mhrifysgol Caerdydd, a fydd yn darparu cysylltiad rhwng y labordy ymchwil a’r byd masnachol ar gyfer un o dechnolegau galluogi allweddol y byd – Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS).

Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yw’r dechnoleg allweddol y tu ôl i weithredu effeithiol y rhyngrwyd ac maent wedi galluogi tueddiadau mawr newydd megis y defnydd o ffonau clyfar a llechi, cyfathrebu lloeren ar gyfer y System Leoli Fyd-eang, Darllediadau Teledu Uniongyrchol a llawer mwy, sy’n cael effaith ar ein bywydau dyddiol. Crëir CS drwy gyfuno elfennau o gyfnodau III a V yn y tabl cyfnodol gan amlaf, i greu deunyddiau â nodweddion ffisegol a chemegol sydd â defnydd technolegol ystod eang.

Mae dwyrain Cymru yn lwcus i fod yn gartref i ymchwilwyr mwyaf blaenllaw y byd ym Mhrifysgol Caerdydd ond hefyd yn gartref i glwstwr o gwmnïau arloesol sydd eisoes yn defnyddio’r dechnoleg CS.  Er bod y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cynrychioli dim ond tua 10% o’r holl refeniw o led-ddargludyddion yn fyd-eang, cydnabyddir yn eang mai’r lled-ddargludyddion cyfansawdd yw’r maes â’r twf cyflymaf. Felly, bydd ehangu gweithgareddau masnachol cwmnïau dwyrain Cymru yn y sector hwn yn hwb pwysig i ddatblygu’r economi ranbarthol, economi Cymru a’r DU  yn y dyfodol.

Yn rhan o weithrediad ICS, caiff cyfleuster ymchwil gymhwysol a throsiadol ei greu, gydag ystafelloedd glân a fydd yn cadw cyfarpar 4” (graddfa ymchwil) ac 8” (graddfa ddiwydiannol) ynghyd â’r offer cysylltiedig, a chaiff ei weithredu gan aelodau staff â sgiliau uchel a phrofiad diwydiannol. Bydd y cyfleusterau hyn yn unigryw yn Ewrop ac yn darparu amgylchedd ymchwilio hyblyg sydd hefyd yn bwysig yn ddiwydiannol. Bydd ymchwilwyr blaenllaw a chwmnïau arloesi yn gweithio gyda’i gilydd yn gydweithredol i archwilio’r darganfyddiadau ymchwilio diweddaraf yn well, wrth lywio’r agenda ymchwil ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol.

Bydd y canlyniad o’r prosiectau ymchwil cydweithredol hynny yn effaith economaidd a gyflawnir drwy Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I), a fydd yn arwain at lansio cynhyrchion a phrosesau CS newydd a gwell. Bydd hyn yn dwyn mwy o fuddsoddiadau ym maes Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a chyflogaeth o safon uchel a chyflogau da yn y rhanbarth. Bydd hyn hefyd yn annog creu cwmnïau deillio, cwmnïau newydd ac ail-leoli cwmnïau CS arloesol o dramor yn y DU ac yn Ewrop, a bydd hyn yn ei gyfanrwydd yn ategu twf a ffyniant dwyrain Cymru.

Y nod yn y pen draw yw cydnabod rhanbarth dwyrain Cymru fel y pumed clwstwr lled-ddargludyddion yn Ewrop, a’r cyntaf ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Model Cyflawni

Caiff y Gweithrediad ICS ei gyflawni gan Brifysgol Caerdydd yn uniongyrchol fel yr unig fuddiolwr. Bydd ICS yn prynu, yn trefnu ac yn sicrhau bod cyfarpar unigryw ar gael mewn ystafell lân, sy’n ddigon hyblyg i ganiatáu ar gyfer datblygu ymchwil ac arloesedd, ond ar yr un pryd bydd yn dilyn manyleb. Bydd proffil y staff hefyd yn sicrhau hygrededd a pherthnasedd diwydiannol. Felly, yr un peirianwyr fydd yn rheoli ac yn cynnal a chadw’r cyfarpar a’r prosesau sy’n ymwneud ag ymchwil ar raddfa fach ac ymchwil ar raddfa fawr. Yn y modd hwn bydd y gost yn llai a hefyd bydd angen llai o ailgynllunio i droi ymchwil o safon fyd-eang yn rhywbeth fydd yn hawdd ei ddefnyddio’n fasnachol, gan gadw at safonau gweithgynhyrchu diwydiannol. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ddatblygu clwstwr o gwmnïau CS yn y rhanbarth, gan eu galluogi i fabwysiadu technolegau newydd  a gwneud y datblygiadau diweddaraf yn rhan o’u cynnyrch, eu prosesau a’u gwasanaethau. Cyflawnir hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:

  1. Prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol;
  2. Gwaith ymchwil gymhwysol a wneir gan staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd;
  3. Defnydd o’r cyfleuster ar sail gwaith ymchwil neu wasanaethau contract, llogi cyfarpar, mynediad i ystafell lân neu ddefnydd o wasanaethau;
  4. Defnyddio eiddo deallusol (IP), trosglwyddo gwybodaeth neu gyfnewid gwybodaeth â gwyddonwyr a thechnegwyr yng Nghaerdydd – (e.e. gwasanaethau ymgynghori a gwaith cynghori)

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i awdurdodau lleol ar draws Cymru gyfan.

Targedau penodol

Bydd y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn adeiladu ac yn sicrhau cyfarpar ar gyfer cyfleuster ystafell lân newydd wedi’i neilltuo i ddatblygu dyfeisiau a chydrannau gyda lled-ddargludyddion cyfansawdd. Bydd ICS yn sicrhau bod y cyfarpar unigryw hwn ar gael i’r clwstwr o gwmnïau yn Nwyrain Cymru sy’n gysylltiedig â CS ac sy’n tyfu. Bydd hyn yn digwydd ar bob lefel o’r gadwyn gyflenwi, a chynhelir prosiectau cydweithredol  gyda’r cwmnïau hynny i gyflwyno’r gwaith ymchwil yn y diwydiant, gan ddod â chynhyrchion newydd i’r farchnad.

Y nod yn y pen draw yw cydnabod rhanbarth y Dwyrain fel y pumed clwstwr lled-ddargludyddion yn Ewrop, a’r cyntaf ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Manylion cyswllt

Enw: Chris Matthews
E-bost: matthewscw@cardiff.ac.uk
Rhif ffôn: 029 225 10549
Cyfeiriad: Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Prifysgol Caerdydd, Adeiladau’r Frenhines, Y Parêd, Caerdydd, CF24 3AA
Gwefan: WordPress › Error
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,