Mae Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobl ifanc di-waith rhwng 16 a 24 oed, sy’n cynnig profiad gwaith gwerthfawr iddynt am gyfnod o 6 mis, am dâl naill ai ar lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’n uwch na hynny am rhwng 25 a 40 awr yr wythnos.
Mae Twf Swyddi Cymru yn gyfle gyrfa gwerthfawr ac mae’n galluogi pobl ifanc i ennill y sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan helpu cwmnïau i dyfu. Mae’r gwaith gyda’r cyflogwyr a’r bobl ifanc yn sicrhau bod unigolion yn symud ymlaen i gyflogaeth, dysgu pellach neu gwneir cyfeiriad addas i gynnig cymorth ychwanegol iddyn nhw i hybu eu gyrfa.
Mae’r rhaglen yn darparu cymhorthdal cyflog o 50% i’r cyflogwr tuag at gynnig profiad gwaith cyflogedig i berson ifanc di-waith rhwng 16 a 14 oed am gyfnod o 6 mis. Telir y cymhorthdal cyflog hwn naill ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’n uwch na hynny, am rhwng 25 a 40 awr yr wythnos.
Mae’r rhaglen hon wedi ymgysylltu’n llwyddiannus â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.
Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru
Mae’n rhaid bod cyfranogwyr: