Gall PaCE helpu i wella dyfodol rhieni sy’n economaidd anweithgar pan mai’r prif rwystr iddyn nhw yw gofal plant, trwy eu helpu i baratoi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth a’u derbyn. Bydd rhieni yn derbyn cymorth unigol trwy’r Cynghorwr Cyflogaeth i Rieni yn y gymuned, a fydd yn eu helpu i wella eu sgiliau, mynd i’r afael â hunan-barch isel/diffyg hyder ac yn arwain rhieni/gofalwyr yn agosach at gyflogaeth gynaliadwy.
Bydd PaCE yn talu costau gofal plant tra bod y rhieni yn dilyn hyfforddiant, yn gwneud profiad gwaith neu’n gwirfoddoli ac yn ennill y sgiliau y mae eu hangen arnynt i gael swydd.
Mae’r prosiect yn cynnig:
Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru sydd heb Gymunedau yn Gyntaf.
Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac enw cyswllt
Pen-y-bont a Rhondda Cynon Taf – Laurie Hayward
Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen, Bro Morgannwg – I’w gadarnhau