Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

ReAct 3

Disgrifiad o’r prosiect

Mae gweithrediad ReAct yn cynnig cymorth i bobl sydd wedi eu diswyddo neu sydd mewn perygl o gael eu diswyddo, i ddod o hyd i swydd newydd mor fuan â phosib ar ôl iddynt gael eu diswyddo.

Mae’r prosiect yn cynnig pecyn cymorth a all helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, goresgyn rhwystrau a gwella eu siawns o ddychwelyd i’r gwaith. Mae hyn yn cynnwys:

Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd yn rhad ac am ddim gan Gyrfa Cymru, grantiau hyfforddi galwedigaethol a chymhorthdal cyflog i gyflogwyr sy’n recriwtio.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru

Meini prawf cymhwyster hanfodol

  • Unigolion sydd yn ddi-waith oherwydd eu bod wedi eu diswyddo yn ystod y 3 mis diwethaf neu sydd wedi derbyn rhybudd eu bod am gael eu diswyddo
  • Unigolion nad ydynt wedi gweithio am fwy nag 16 awr mewn wythnos am 5 wythnos neu fwy ers dyddiad eu diswyddo
  • Unigolion sy’n byw yng Nghymru ar ddyddiad eu diswyddo a dyddiad eu cais am grant.
  • Unigolion sydd â hawl cyfreithiol i fyw a gweithio yn y DU

Manylion cyswllt

E-bost: Sasha.davies@careerswales.com
Rhif ffôn: 0800 028 48 44
Cyfeiriad: Careers Wales, Uned 21, Rhodfa’r Gogledd, Cwmbran, NP44 1PR
Gwefan: WordPress › Error
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,