Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Sêr Cymru II

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Sêr Cymru II yn rhaglen gwerth £56 miliwn, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd (UE) a sector Addysg Uwch Cymru. Mae’n ddatblygiad unigryw sy’n golygu bod cyllid Horizon 2020 yr UE yn gweithio ar y cyd â Chronfeydd Strwythurol yr UE i ddarparu rhaglen ddi-dor sy’n cynnwys:

  • Cymrodoriaethau Marie Skłodowska-Curie Actions COFUND: dros 90 o gymrodorion ymchwil o’r tu allan i’r DU
  • Cymrodoriaethau Cadeiryddion Ymchwil a Sêr y Dyfodol: dyfarniadau pum mlynedd i ddenu’r goreuon ym maes ymchwil academaidd
  • Cymrodoriaethau ‘Cymru’: 30 cymrodoriaeth tair blynedd o unrhyw le yn y byd (gan gynnwys y DU)
  • Ail-gipio Dawn Ymchwilio: 12 cymrodoriaeth i annog ymchwilwyr i ddychwelyd i’r byd academaidd

Model Cyflawni

Mae Sêr Cymru II yn gynllun gwobrwyo cystadleuol sydd ar gael i brifysgolion yng Nghymru. Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau gyda’r cyllid cyfatebol gan sefydliad cynhaliol y cymrodor, ond y cymrodorion eu hunain sy’n llywio’r ceisiadau. Cynigir yr argymhellion ariannu drwy ddefnyddio dulliau sydd wedi’u profi ac sy’n seiliedig ar deilyngdod a gwneir penderfyniadau heb roi ystyriaeth i genedligrwydd, pwnc, oedran, seibiannau gyrfa, ac ati. Penodwyd y Panel Gwerthuso Annibynnol sy’n gwneud yr argymhellion hyn ar ein rhan drwy gystadleuaeth agored ac mae’n cynnwys arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol a chanddynt wybodaeth wyddonol eang a phrofiad o baneli cyllido. Cynorthwyir eu hasesiadau drwy ddefnyddio adolygiad gan gymheiriaid allanol, rhyngwladol.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i Gaerdydd a Chasnewydd yn ne-ddwyrain Cymru, yn ogystal ag Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, Abertawe a Wrecsam.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

  • Cymrodoriaethau Marie Skłodowska-Curie Actions COFUND: 3 – 5 mlynedd ar ôl Doethuriaeth, heb dreulio mwy na 12 mis yn y DU yn ystod y tair blynedd diwethaf
  • Cymrodoriaethau Cadeiryddion Ymchwil a Sêr y Dyfodol: 7 mlynedd + ar ôl Doethuriaeth, profiad a pharch ym maes ymchwil. Cadeiryddion yn unig mewn achosion eithriadol yn unig, pan fo angen strategol amlwg
  • Cymrodoriaethau ‘Cymru’: 3 – 5 mlynedd ar ôl Doethuriaeth, o unrhyw le yn y byd, gan gynnwys y DU a sefydliadau Cymru cyhyd â’u bod yn dangos ‘ychwanegedd’ a’r gallu i feithrin capasiti
  • Ail-gipio Dawn Ymchwilio: 3 blynedd ar ôl Doethuriaeth profiad ac oddeutu 2 flynedd y tu allan i faes ymchwil academaidd

Targedau penodol

Targedau Sêr Cymru II yw:

  • Ymchwilwyr newydd mewn swydd: 74 (Dwyrain Cymru 36, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd 38)
  • Cynnydd mewn incwm grantiau i Gymru: £25.5 miliwn (Dwyrain Cymru £12.5 miliwn, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd £13 miliwn)
  • Cydweithredu â mentrau: 52 (Dwyrain Cymru 25, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd 27)

Manylion cyswllt

Enw: Delyth Morgan
E-bost: delyth.morgan@gov.wales
Rhif ffôn: 03000 251383
Cyfeiriad: Swyddfa Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd
Gwefan: WordPress › Error
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,