Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Technocamps

Disgrifiad o’r prosiect

Bydd y prosiect yn ymgysylltu â chyfranogwyr gan ddefnyddio dull amlweddog, gyda’r nod o’u cymell a’u hysbrydoli i fod eisiau astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch. Bydd cyfranogwyr yn ymgymryd â Rhaglenni Cyfoethogi STEM dros flwyddyn ysgol gyfan, sy’n darparu ystod o weithgareddau cyfrifiadureg a STEM yn yr ysgol ac ar gampysau prifysgolion.

Nod y prosiect yw annog cyfranogwyr i ddewis astudio Cyfrifiadura yn benodol – ar lefel TGAU a thu hwnt. Yn ein hysgolion targed nad ydynt yn darparu Cyfrifiadura ar lefel TGAU, bydd ein cefnogaeth yn creu amgylchedd a fydd yn annog ac yn cefnogi’r ysgolion i ddarparu ar gyfer uchelgais y cyfranogwyr. Byddwn hefyd yn annog myfyrwyr i ddewis pynciau STEM nad ydynt yn ymwneud â Chyfrifiadura trwy ddefnyddio gweithdai sy’n defnyddio atebion cyfrifiadurol i broblemau sy’n deillio o’r pynciau STEM eraill hyn.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn gweithio ar draws awdurdodau lleol ledled ardal Gorllewin Cymru a’r cymoedd.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Cyn ymwneud â’r prosiect, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd ag asesiad addasrwydd lle bydd y rhai sy’n perthyn i un neu fwy o’r meini prawf canlynol yn cael eu targedu i dderbyn ymyriad:

  • Disgyblion sydd yn y traean isaf o ran cyrhaeddiad mewn un neu fwy o bynciau STEM
  • Disgyblion nad ydynt yn dangos dawn arbennig o ran pynciau STEM
  • Disgyblion sydd ag ychydig neu ddim uchelgais i astudio pynciau STEM mewn addysg ôl-16

Manylion cyswllt

E-bost: info@technocamps.com
Rhif ffôn: 01792 513747
Cyfeiriad: Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP

Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter