Mae’r Gwasanaeth Di-Waith yn rhaglen arbenigol sy’n gallu cefnogi 14,134 o bobl ledled Cymru hyd at fis Medi 2020. Mae’n cefnogi pobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau ac alcohol a/neu o salwch meddwl. Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor neu’n economaidd anweithgar. Gall gefnogi cyflogwyr sy’n dymuno cynnig cyflogaeth neu gyfleoedd dysgu i gyfranogwyr.
Mae’r Gwasanaeth Di-Waith yn darparu gwasanaeth mentora gan gymheiriaid a chymorth cyflogaeth arbenigol. Mae hefyd yn cynnig cymorth pontio am hyd at dri mis i gyfranogwyr sy’n dod o hyd i waith.
Gwaith mentor cymheiriaid penodedig yw darparu cefnogaeth eirioli, helpu pobl i oresgyn problemau yn ymwneud â thai, rheoli arian, chwilio am swydd, cyfleoedd i wella eu haddysg, hyfforddiant, profiad ymarferol o waith neu waith gwirfoddol.
Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru
Mae’n rhaid i’r cyfranogwyr fod yn byw yng Nghymru ac yn rhan o un o’r grwp canlynol:
Disgwylir y bydd y gweithrediad hwn yn cefnogi o leiaf 14,134 o gyfranogwyr. Ei nod yw cyrraedd targed cyflogaeth o 15%. Bydd y Gwasanaeth Di-Waith yn mesur perfformiad y gweithrediad yn erbyn y dangosyddion a nodir gan Raglenni Gweithredol Cronfa Gymdeithasol Ewrop Cymru 2014-2020. Bydd hefyd yn ei fesur yn erbyn dangosyddion sy’n benodol i’r Gwasanaeth Di-Waith ac sy’n cael eu llywio gan argymhellion a nodwyd yng ngwerthusiad yr Yr Uned Rheoli Cynlluniau – Rhaglen Rheoli Project 2009-2014.
Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac enw cyswllt
Gofal (mewn partneriaeth â New Link) yn darparu yn ardaloedd Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf.
Ffôn: 01443 845975
Gwefan:
Gwefan New Link:
Facebook:
Cyfle Cymru (Consortiwm CAIS) yn darparu yng ngweddill Cymru.
Ffôn: 01633 258 489
Gwefan:
Facebook: