Dan arweiniad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 yn darparu cymwysterau i weithwyr yn niwydiant Cymru, yn y sector gweithgynhyrchu uwch yn enwedig. Mae’n cefnogi gweithwyr i ddeall ac ymgysylltu â newid technolegol cyflym, gan helpu i sbarduno twf busnes. Nod y rhaglenni hyn yw sicrhau bod cwmnïau Gweithgynhyrchu yng Nghymru yn parhau i fod o flaen y gystadleuaeth drwy nodi technolegau a phrosesau gweithgynhyrchu presennol a newydd a all symud eich sefydliad ymlaen.
Lle bynnag y mae eu lleoliad yng Nghymru, ac i ryw raddau, eu hamserlen wythnosol arferol, mae’r rhaglenni wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion y cyfranogwyr. Gan eu bod nhw’n cael eu darparu fesul cyfnodau dysgu byr, ceir hyblygrwydd i drefnu’r astudiaeth o amgylch eu hymrwymiadau eraill.
Bydd ein staff academaidd yn gweithio gyda chyfranogwyr i;
Mae’r prosiect yn gweithredu ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Gweithwyr o unrhyw fusnes mawr neu fach sy’n gweithredu yn unrhyw ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’n rhaid i gyfranogwyr feddu ar gymhwyster lefel 3 sydd eisoes yn bodoli neu gyfwerth fel cymwysterau gofynnol.
Hyfforddi 302 o gyfranogwyr dros gyfnod o 5 mlynedd.