Hybu iechyd a lles staff a busnesau bach a chanolig yn Rhondda Cynon Taf.
Dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae Cadw’n Iach yn y Gwaith yn cynnig cymorth i fusnesau micro, bach a chanolig yn Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod pawb a gyflogir yn yr ardal awdurdod lleol yn gallu cael mynediad i wasanaethau cymorth teg ‘mewn gwaith’, sy’n rhoi sylw penodol i anghenion unigolion o ran lles ac i’r gwaith o ddatblygu polisïau cefnogol.
Mae Cadw’n Iach yn y Gwaith yn cynnig dull rhagweithiol ac integredig o weithredu sy’n hybu’r gwaith o atal afiechyd corfforol a meddyliol ac sydd, ar yr un pryd, yn hybu camau i adsefydlu pobl a rheoli anhwylderau hirdymor. Rydym yn darparu cymorth clinigol i wella gallu pobl i weithredu o ddydd i ddydd a rheoli symptomau, er mwyn iddynt allu dychwelyd i’r gwaith neu barhau i weithio.
Rhoi i fusnesau micro, bach a chanolig gymorth ym maes Adnoddau Dynol i ddatblygu polisïau ynghylch absenoldeb ac ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Wrth wneud hynny, nod y prosiect yw gwella amodau cyflogaeth pobl a rhoi i unigolion gymorth gan ystod lawn o arbenigwyr iechyd galwedigaethol.
Busnesau bach a chanolig
Unigolion
Rydym yn cynnig sesiynau ymgynghori rhithiol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yng nghymunedau Aberpennar a Glynrhedynog i’r sawl sydd am gael gwasanaeth cwnsela, ac ym Mhontypridd ar gyfer y sawl sydd am gael ffisiotherapi.
Mae’r prosiect ar waith ledled ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.
Rhaid bod busnesau:
Rhaid bod unigolion:
Bydd busnesau bach a chanolig yn cael cymorth i fabwysiadu neu wella strategaethau ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth a systemau monitro.
Bydd unigolion yn cael cymorth i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb neu’n cael cymorth i barhau i weithio.
stayingwellatwork@rctcbc.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol eraill:
Gallwch hefyd gofrestru gan ddefnyddio ein ffurflenni atgyfeirio ar-lein y mae modd cael gafael arnynt drwy’r codau QR isod.