Cliciwch lun i lawrlwytho PDF
Mae IMPACT yn ganolfan ymchwil o’r radd flaenaf sy’n arbenigo mewn deunyddiau, prosesu a thechnolegau rhifol.
Mae’r Ganolfan Ragoriaeth hon yn rhan o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ac yn darparu amgylchedd ymchwil trawsnewidiol effeithiol iawn ar gyfer partneriaethau academaidd diwydiannol ac ymchwil sylfaenol, gydweithredol.
Nod IMPACT yw diogelu’r diwydiant deunyddiau a pheirianneg uwch byd-eang yn y dyfodol drwy gydweithrediadau sy’n gwella capasiti ymchwil ac yn cynyddu cystadleurwydd.
Mae IMPACT yn cynnig y gallu i gael gafael ar arbenigedd o safon fyd-eang a ysgogwyd drwy gydweithio dwys rhwng y diwydiant a’r byd academaidd – gan alluogi amgylchedd ymchwil trawsnewidiol effeithiol iawn a’i wneud yn gyfleuster cydleoli unigryw ar gyfer y partneriaethau academaidd-ddiwydiannol.
Un o’r amcanion allweddol yw helpu busnesau a diwydiant i ddod o hyd i atebion arloesol. Drwy ein meysydd arbenigedd, gallwn gynnig mewnwelediad i’r datblygiadau ymchwil diweddaraf ynghyd â’n labordai o’r radd flaenaf, ein gweithdy a’n hoffer arbenigol.
Bydd cydweithrediadau IMPACT rhwng y byd academaidd a’r diwydiant yn darparu cyfle unigryw i gwmnïau gael gafael ar:
Bydd y prosiect o fudd i Ben-y-bont ar Ogwr ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ogystal ag Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin.
Dechreuodd gweithrediad IMPACT yn 2015. Dechreuwyd adeiladu’r adeilad newydd ym mis Medi 2017 ac fe’i cwblhawyd ym mis Mai 2019. Mae atriwm cysylltiedig yn rhannu’r adeilad ei hun yn ddwy ardal amlwg, sy’n cynnwys adeilad swyddfa ymchwil ac adeilad labordy gyda gweithdy cynllun agored 1,600m2. Mae’r gwaith ar y trywydd iawn o ran cyflawni pob un o’i dargedau. Cynhelir lansiad swyddogol yr adeilad ym mis Chwefror 2019.