Rhanbarthau Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru ar gyfer 2014-2020

 

Mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cael mwy o arian ac ar gyfradd ymyrraeth uwch na Dwyrain Cymru.

Bydd rhannau o Gymru, a’u cymhwysedd yn cael ei bennu ar lefel ward, hefyd yn gymwys i gael cyllid trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, ac mae’r rhain, ar y cyd â Chronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn ffurfio’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd.

Bydd y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, ynghyd â chyllid cyfatebol, yn ysgogi cyfanswm buddsoddiad o £3 biliwn ledled Cymru, a fydd yn helpu pobl i waith a hyfforddiant, cyflogaeth i bobl ifanc, cystadleurwydd busnes, ymchwil ac arloesi, ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, seilwaith, cysylltedd a datblygiad trefol a gwledig.