Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Infuse – Gwasanaethau Arloesol y Dyfodol

Disgrifiad o’r prosiect

Rhaglen arloesi ac ymchwil yw Infuse a gynlluniwyd i feithrin sgiliau a chapasiti ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus arloesol yn y dyfodol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Cefnogir Infuse gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Y Lab, Nesta, Swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r deg awdurdod lleol sy’n ffurfio’r rhanbarth, gan gynnwys Cyngor Sir Fynwy fel y partner arweiniol. Bydd y rhaglen yn seiliedig ar gyfleoedd i fynd i’r afael â chwestiynau bywyd real, wedi’u sbarduno gan yr heriau mwyaf sy’n wynebu’r rhanbarth.

Bydd partneriaid a chyfranogwyr Infuse yn nodi amrywiaeth o heriau neu broblemau sy’n cael eu rhannu ar draws y rhanbarth. Gallai’r rhain gynnwys datgarboneiddio, teithio llesol, tai neu ofal cymdeithasol. Gan ddefnyddio’r heriau hyn a rennir, byddwn yn dod â thimau trawsranbarthol at ei gilydd ym mhob un o’r tri maes sgiliau i weithio tuag at ddatrys rhan o’r her hon, gan ddefnyddio adnoddau a dulliau newydd.

Bydd timau’n derbyn tua thri mis o hyfforddiant a chymorth gyda sgiliau, adnoddau a dulliau newydd, ac wedyn tri mis o hyfforddi yn eu sefydliadau eu hunain wrth iddynt fynd yn ôl i’w rhoi ar waith, gan helpu i newid dyfodol y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd i ddod; a datblygu sgiliau a chapasiti arloesi newydd drwy fynd i’r afael â heriau gwasanaethau cyhoeddus rhanbarthol.

Bydd y rhaglen yn weithredol tan 2023, gan weithio gyda thri grŵp o weithwyr awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn cwmpasu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhonda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Gweision Cyhoeddus o’r deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Gobeithiwn ehangu’r cyfle i gefnogi cyfranogwyr eraill yn y Sector Cyhoeddus, y Sector Preifat a’r Trydydd Sector yn y dyfodol agos.

Targedau penodol

  • 3 dull, adnodd a gweithdrefn newydd wedi’u datblygu a’u dosbarthu.
  • 1 prosiect sy’n targedu gweinyddiaethau cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
  • 3 dull, proses neu adnodd yn cael eu datblygu gyda chefnogaeth.
  • Nifer yr endidau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau sy’n targedu gweinyddiaethau cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.

Manylion cyswllt

Enw: Owen Wilce
E-bost: owenwilce@monmouthshire.gov.uk
Rhif ffôn: 07973 559323
Cyfeiriad: Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1GA
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Linked In: https://www.linkedin.com/company/infuse2023/

Cynnydd

Mae Infuse wedi gweithio gydag arweinyddiaeth Wleidyddol a Swyddogion y 10 awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Drwy’r ymgysylltu hwn, dewiswyd y ddwy thema allweddol yn ogystal â’r cwestiynau cysylltiedig:

  • Thema Un Cyflymu Datgarboneiddio – byddwn yn edrych ar:

C: Beth mae’n ei olygu i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd?

  • Thema Dau Cymunedau Cefnogol

C: Beth yw’r Modelau Gweithredu Newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol ar ôl COVID-19?

Mae rhaglen Infuse wedi recriwtio bron pob un o’r ugain aelod o’r tîm rheoli, ymchwil a darparu rhaglenni rhyngddisgyblaethol cadarn.

Mae Infuse wedi cyflwyno dau grŵp ffocws i ddarpar ymgeiswyr brofi a mireinio darpariaeth rhaglen Infuse. Cyflwynwyd sesiynau ar 5ed Mawrth ac 11eg Mawrth a gwnaethom ymgysylltu ag 19 o swyddogion awdurdodau lleol o wyth o’r awdurdodau lleol wrth gynllunio’r rhaglen.

Cohort Alpha yw’r prototeip sydd wedi’i ddatblygu i ymateb i effaith COVID-19 a chaniatáu dysgu dwys i grwpiau dilynol.  Bydd Cohort Alpha yn dechrau ar Fai 4ydd 2021.

Mae tîm Infuse wedi bod yn gweithio’n galed ar gam ysgogi’r rhaglen gan weithio gyda WEFO a phartneriaid eraill i greu’r amodau i sicrhau bod y rhaglen yn llwyddiant a’n bod yn cydymffurfio â’n hymrwymiadau ariannu.

Mae Brand Infuse wedi cael ei ddatblygu ochr yn ochr â chynllun Cyfathrebu a Marchnata cynhwysfawr.  Mae Infuse wedi lansio cyfres o bodlediadau a fydd yn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo a rhannu’r dysgu o’r rhaglen. https://soundcloud.com/user-568940979-16472132/infuse-the-podcast-ep1-kellie-beirne