Lansiad Rhaglen Gwasanaethau Ariannol Cymru ’21

Med 17, 2021

WALES NEWS SERVICE

Unig gwmni FTSE 100 Cymru yn dathlu ei ran yn Rhaglen Gwasanaethau Ariannol Cymru i Raddedigion a ariennir gan yr ESF

Rhan-ariennir y Rhaglen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Caiff bron 70% o’r graddedigion eu recriwtio’n uniongyrchol o brifysgolion Cymru ac aiff 98% ymlaen i gael gwaith yn sector ariannol Cymru.

Wrth gyflwyno’r prif anerchiad yn lansiad y Rhaglen yn 2021, amlinellodd Milena Mondini, Prif Swyddog Gweithredol Admiral Group, pam fod denu a datblygu gweithwyr proffesiynol ifanc o gefndiroedd amrywiol yn hanfodol i sefydliadau ariannol arweiniol y wlad.

Eleni, roedd 40% o’r holl raddedigion a dderbyniwyd i’r Rhaglen yn fenywod, ac unigolion o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wnaeth ennill 30% o’r llefydd.  Mae hyn yn benllanw wyth mlynedd o waith gan ddatblygwyr i feithrin perthnasoedd agos â gwasanaethau gyrfaoedd prifysgolion, arweinyddion cymunedol a dylanwadwyr, i greu rhaglen allgymorth i sicrhau bod doniau ifanc mewn cymunedau ar draws de Cymru yn cael eu hannog i fynd ar drywydd y cyfleoedd sydd ar gael.

Wrth siarad â charfan ddiweddaraf y Rhaglen wrth iddynt baratoi i ddechrau’r cyntaf o’u tri lleoliad mewn diwydiant, meddai Milena Mondini de Focatiis:

“Rwy’n falch dros ben bod Admiral Group wedi bod yn rhan o Raglen Gwasanaethau Ariannol Cymru i Raddedigion o’r dechrau.  Hyd yma, mae 19 o raddedigion wedi ymuno â ni mewn swyddi parhaol ar ôl bod ar leoliadau, ac mae llawer o’r rhain wedi symud ymlaen â’u gyrfa ar draws y sefydliad. Mae eu cefndiroedd amrywiol a’u hegni cadarnhaol wedi dod â gwerth aruthrol inni ac i’r sector Gwasanaethau Ariannol yma yng Nghymru.”

Wrth lansio’r Rhaglen yn swyddogol, amlygodd y Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething, ei gyfraniad i dwf sector ariannol Cymru, gan ddweud:

“…Rwyf wrth fy modd yn lansio carfan 2021-2023 o’r Rhaglen Gwasanaethau Ariannol i Raddedigion a ariennir gan yr UE. Buddsoddwyd dros £6m o arian yr UE yn y rhaglen hon, gan roi i ragor o raddedigion y cyfle i ddilyn gyrfaoedd proffesiynol yma yng Nghymru, a helpu busnesau i ddatblygu arweinyddion y genhedlaeth nesaf.  Mae’r rhaglen yn llwyddo i gefnogi pobl ifanc i gyflawni i’w llawn botensial drwy ddatblygu’r sgiliau a’r profiadau y bydd arnynt eu hangen i wella’u rhagolygon gyrfa, a hefyd yn cadw ac yn meithrin doniau yma yng Nghymru.”

Mae dros 200 o raddedigion wedi lansio gyrfaoedd yma yng Nghymru ar ôl achub ar y cyfle i ennill MSc mewn Gwasanaethau Ariannol, wedi’i ariannu, gan gael blas, ar yr un pryd, ar bortffolio o lwybrau gyrfa wrth iddynt brofi nifer o leoliadau gyda rhai o gyflogwyr mwyaf poblogaidd y wlad.

Ymysg y cwmnïau Cymreig arweiniol i gynnwys y Rhaglen fel rhan hanfodol o’u gweithgareddau recriwtio y mae, Admiral, Atradius, Amber Energy, Confused.com, Banc Datblygu Cymru, Hodge Bank, Indigo Telecom, Legal & General, LexisNexis Risk Solutions, Monmouthshire Building Society, Motonovo, Optimum Credit, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Propel Finance, sa.global, Skillcert a Vauxhall Finance.

Dysgu rhagor am Raglen Gwasanaethau Ariannol Cymru i Raddedigion