Cynlluniwyd Ysbrydoli i Gyflawni i nodi a mynd i’r afael ag anghenion y rhai hynny sydd mewn perygl o ddatgysylltu o’u llwybr addysgiadol. Bydd staff y prosiect yn cynnig cymorth sydd wedi ei deilwra i gyfranogwyr, gan eu galluogi i aros neu ail-ymuno â’r ddarpariaeth addysg brif ffrwd neu fodelau cwricwlwm amgen.
Gweithredir y prosiect yn awdurdodau lleol canlynol yn Ne-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Torfaen a Rhondda Cynon Taf.
Pobl ifanc (11 i 24 oed) a dynodwyd gan system Nodi’n Gynnar yr awdurdodau yn rhai a allai fod yn agored i beidio â bod mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant (NEET) ar ôl iddyn nhw adael eu darpariaeth addysg briodol.