Gronfa Cynhwysiant Gweithredol

Rha 16, 2022

Yn ystod ei chyflwyno, mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, a weinyddwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC),  wedi cynorthwyo 184 o sefydliadau, 482 o brosiectau a 26,121 o gyfranogwyr, ac wedi dyfarnu £42 miliwn o gyllid Ewropeaidd.  Mae 27 o brosiectau Cynhwysiant Gweithredol ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd a bydd y rhain i gyd wedi cau erbyn diwedd Rhagfyr 2022.

Mae CGGC wedi comisiynu cyfres o fideos i amlygu’r ffyrdd penodol y mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu rhai o’r bobl a’r cymunedau anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru trwy’r Sector Gwirfoddol.

Gwylio’r fideos effaith ar wefan CGGC.

Un o’r nifer o brosiectau a gefnogwyd gan y gronfa yw rhaglen Take Charge gan Innovate Trust sydd wedi bod yn cynnig cymorth ac arweiniad i bobl ag anableddau er 1967.  Nod Take Charge, sy’n gweithredu yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf, yw gwella sgiliau cyflogaeth a llesiant, ac mae’n agored i unrhyw rai dros 25 oed sydd ag anabledd dysgu neu gyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio ac sydd heb fod yn gweithio ar hyn o bryd.

Astudiaeth achos Take Charge

Mae gan Amy, sy’n fyddar, anabledd dysgu. Roedd Amy am ddysgu BSL er mwyn gallu cyfathrebu’n fwy effeithiol â’i staff cymorth, ei theulu, ei ffrindiau a’r gymuned ehangach pan fyddai’n gwirfoddoli. Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol ag eraill yn sgìl hanfodol yn y gweithle ac yn y cartref. Y rhwystr pennaf i Amy ar hyn o bryd yw diffyg sgiliau cyfathrebu effeithiol gan na chafodd gyfle i ddysgu BSL mewn modd hygyrch a bu’n rhaid iddi ddyfeisio llawer o’i harwyddion ei hun. Dim ond y bobl agosaf ati sy’n gallu deall yr arwyddion hyn felly mae’n bwysig bod Amy yn dysgu rhagor o BSL er mwyn camu tuag at gyfleoedd gwirfoddoli newydd a chyflogaeth.

Mae Amy hefyd yn dwlu ar arddio a natur, felly buom yn cydweithio i ddysgu rhywfaint o BSL i Amy wrth iddi hefyd ddysgu am ddatblygu cynaliadwy. Bu modd i Take Charge ddarparu’r sesiynau un-i-un yr oedd eu hangen arni i wella’i sgiliau BSL a dysgu mwy am natur. Er nad oedd Amy ond wedi cyfarfod â staff Take Charge unwaith o’r blaen, roedd hi’n barod i ymarfer arwyddion newydd gyda ni a gweithio fel tîm i gael hyd i’r ffordd orau o ddysgu, gan ddangos dyfalbarhad a gwytnwch clodwiw. Ein sesiwn gyntaf oedd y dystysgrif ragarweiniol BSL cysylltiedig â’r gwaith, cyn symud ymlaen i’n sesiynau â thema datblygu cynaliadwy.

Mae Amy wedi cwblhau tair sesiwn â thema datblygu cynaliadwy gyda ni hyd yn hyn. Teitl ei sesiwn gyntaf oedd ‘Pwy sy’n byw yn eich gardd?’ a oedd â’r nod o annog y cyfranogwyr i ofalu am y bywyd gwyllt yn eu gardd a gwella bioamrywiaeth. Cafodd Amy gymorth gennym i ddysgu am y bywyd gwyllt yn ei gardd a dysgu arwyddion newydd ar gyfer yr anifeiliaid a’r pryfed y gallai gael hyd iddynt. Bu Amy yn canolbwyntio’n dda ar hyd y sesiwn. Defnyddiom ap BSL i helpu Amy i ddysgu’r arwyddion yr oeddem yn llai sicr ohonynt. Aeth Amy ati i ddefnyddio’r ap ei hun, ar ôl i ni ddangos iddi sut y mae’n gweithio, a theipio’r geiriau yr oedd hi am eu cyfieithu i BSL. Bydd gallu defnyddio ap o’r math hwn yn ddefnyddiol dros ben wrth i Amy ddatblygu ei sgiliau BSL. Mae modd defnyddio’r ap hefyd fel offeryn i gyfathrebu ag eraill. Mae Amy bellach yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio arwyddion ar gyfer y gwahanol anifeiliaid a phryfed yn ei gardd.

Roedd ein hail sesiwn â thema datblygu cynaliadwy yn canolbwyntio ar sut y mae planhigion yn llesol i’r amgylchedd. Dysgodd Amy am ffotosynthesis a chynhesu byd-eang yn y sesiwn hon. Buom hefyd yn trafod yr effaith gadarnhaol y gall planhigion ei chael ar ein llesiant ac anogwyd Amy i feddwl am y mathau o blanhigion yr hoffai eu tyfu.

Gan fod y sesiwn hon yn rhoi sylw i thema debyg, roedd modd i ni fynd trwy’r arwyddion yr oedd Amy wedi’u dysgu o’r blaen cyn cyflwyno rhai newydd a oedd yn ymwneud yn benodol â phlanhigion. Unwaith eto, roedd Amy yn frwd iawn ar hyd y sesiwn ac yn ymgysylltu’n wych. Mae dangos yr arwyddion yr oedd hi’n gallu eu cofio wedi bod yn ddefnyddiol iawn o safbwynt hyder Amy. Roedd Take Charge yn gallu darparu’r sesiynau hyn ar gyflymder addas i Amy er mwyn sicrhau ei bod yn cael y budd mwyaf o’r profiad. Bellach, mae Amy yn gwybod mwy o BSL nag o’r blaen ac mae hi’n dechrau teimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio arwyddion gyda phobl newydd. Gall Amy ddefnyddio rhai o’r arwyddion hyn â thema natur pan fydd hi’n gwirfoddoli yn yr ardd gymunedol. Yn yr un modd, cafodd Amy fynd trwy’r arwyddion eto yn ystod ein trydedd sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar Gyfrifiad Mawr Gloÿnnod Byw.

Teimlwn fod Amy bellach yn barod i symud ymlaen i gwrs BSL manylach. Ar ôl cydgysylltu â Chyngor Cymru i Bobl Fyddar, cawsom hyd i gwrs BSL anffurfiol a di-dâl i Amy a fydd yn cychwyn ar ôl gwyliau hanner tymor yr hydref. Bydd y cwrs hwn yn helpu Amy i barhau i feithrin hyder a datblygu ei sgiliau BSL.

Dysgu rhagor am Take Charge ar wefan Innovate Trust.