Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

WCVA AIF Evaluation Final Report 2022 Cymraeg

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Cronfa Cynhwysiant Gweithredol – Mae’r prosiect hwn wedi’i orffen

Disgrifiad o’r prosiect

Nod y Cronfeydd Cynhwysiant Gweithredol yw gwneud cyfraniad sylweddol at godi lefelau cyflogaeth a lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru.

Bydd grantiau yn ariannu gweithgareddau ymgysylltu (Cynnwys) a/neu gyflogaeth â chymorth, gyda thâl, ac wedi’i strwythuro, (Cyflawni) ar gyfer y rhai hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur, er mwyn darparu sgiliau newydd a mwy o hyder i gyfranogwyr, a fydd yn eu galluogi i fod yn economaidd weithgar.

Nid yw Cynhwysiant Gweithredol yn benodol o ran unrhyw wasanaeth na gweithgarwch ar gyfer prosiect neu weithgareddau Cynnwys. Ar gyfer prosiect neu weithgareddau Cyflawni, bydd Cynhwysiant Gweithredol yn ariannu sefydliadau i gynnig cyflogaeth â chymorth gyda thâl, i gefnogi a datblygu pobl a allai fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau, a’u helpu i symud ymlaen i gyflogaeth heb gymorth.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Buddiolwyr (sefydliadau sy’n gwneud cais am gyllid): penderfynir yng ngham 1 proses cais am grant ar-lein.

Cyfranogwyr (unigolion y gall y prosiectau eu helpu): y rhai di-waith yn yr hirdymor ac yn economaidd anweithgar; 25+; ac mae’n rhaid iddynt fod mewn un o’r categorïau canlynol:

  • 54 oed neu’n hŷn (Anweithgar yn economaidd yn unig)
  • Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (Rhai di-waith yn yr hirdymor yn unig)
  • Gofalwyr (Economaidd anweithgar yn unig)
  • Pobl o aelwydydd lle nad oes neb mewn gwaith
  • Sgiliau isel
  • Cyflyrau Iechyd sy’n cyfyngu ar y gallu i weithio

Targedau penodol

  • Ymgysylltu
  • Cymwysterau
  • Cyflogaeth
  • Gwirfoddoli / lleoliad gwaith â chymorth
  • Chwilio am swydd (Rhai economaidd anweithgar yn unig)

Mae gan bob prosiect a ariennir ei dargedau unigol ei hun. Yn gyffredinol, y targed ar gyfer cyflogaeth yw 18% o’r rhai sy’n cymryd rhan, ond oddeutu 11% ar gyfer gweithgareddau Cynnwys a 52% ar gyfer gweithgareddau Cyflawni.

Manylion cyswllt

E-bost: activeinclusion@wcva.cymru
Rhif ffôn: 0300 111 0124
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Twitter arall: Dolen
YouTube: Dolen
Flickr: Dolen