Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Cynhyrchu Cyfryngau Uwch

Disgrifiad o’r prosiect

Nod Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yw darparu hyfforddiant achrededig i wella arloesedd a chynhyrchiant o fewn diwydiannau sector cyhoeddus a phreifat Cymru.

Gan weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig mynediad at hyfforddiant lefel uchel i fusnesau a’u gweithwyr i’w galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon gyda ffocws penodol ar dechnolegau newydd a’u potensial ar gyfer twf cynyddol a swyddi.

Darperir hyfforddiant mewn fformat hyblyg sy’n ymateb i’r diwydiant gan alluogi myfyrwyr i weithio trwy ddysgu o bell â chymorth i ddiweddaru eu gwybodaeth dechnegol a gwella eu sgiliau digidol a chyfryngol.

Mae cynhyrchu a dosbarthu digidol a chyfryngau wedi dod yn ‘ffordd o fyw’ i’r mwyafrif ohonom gyda bron pob cyfathrebiad cymdeithasol a phroffesiynol yn cael ei gynnal trwy sianeli digidol.

Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn cefnogi busnesau a sefydliadau Cymreig i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau o fewn y diwydiant digidol a chyfryngau. Ei phrif amcan yw cefnogi cwmnïau a sefydliadau Cymreig drwy ddarparu hyfforddiant â chymhorthdal sylweddol i’w gweithlu ar dechnoleg newydd a datblygiadau o fewn y meysydd cynhyrchu digidol a chyfryngol.

  • Dewis o 11 modiwl a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog.
  • Dysgu o bell a dysgu ar-lein
  • Mae pob modiwl ar-lein yn rhedeg am 14 wythnos ac wedi’u cynllunio i ganiatáu i fyfyrwyr astudio heb fod angen cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.
  • Dim arholiadau – asesiad trwy waith cwrs
  • Tri chymeriant blynyddol – Chwefror, Mehefin a Hydref
  • Mae’r modiwlau’n cynnwys: Cyflwyniad i Gynhyrchu Cyfryngau; Rhaglennu ar gyfer Cyfryngau Digidol; Graffeg Gymhwysol; Datblygu’r We; Data Mawr; Diwylliant Digidol; Rhyw a Chynhyrchu Cyfryngau
  • Astudio modiwlau unigol neu weithio tuag at gymhwyster ôl-raddedig (hyd at lefel Meistr).

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn gweithredu ar draws Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r gofynion canlynol:

  • Bod yn rhan o’r sector Diwydiannau Creadigol neu hoffech chi fod
  • Eisiau diweddaru eu sgiliau a’u gwybodaeth i fod yn fwy arloesol yn eu rôl a/neu ennill cymhwyster ôl-raddedig
  • Bod â gradd (unrhyw bwnc) neu o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith perthnasol
  • Byw neu weithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd

Gweld y meini prawf cymhwysedd ar gyfer Cynhyrchu Cyfryngau Uwch ar eu gwefan.

Manylion cyswllt

Enw: Elin Mair Mabbutt
E-bost: Emm32@aber.ac.uk
Rhif ffôn: 07939 203938
Cyfeiriad: Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, Adeilad Llandinam, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3BD


Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter