Cliciwch lun i lawrlwytho PDF
Gall ASTUTE 2020 gefnogi lefelau uwch o ymchwil, datblygu ac arloesi ar draws amrywiaeth o sectorau drwy gryfhau gwybodaeth ac arbenigedd i greu nwyddau a gwasanaethau o werth uwch a gwella effeithlonrwydd gyda’r nod o ysgogi cynhyrchiant a thwf yn y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Mae cydweithrediadau ASTUTE yn ysbrydoli cwmnïau gweithgynhyrchu i wella a moderneiddio eu prosesau gweithgynhyrchu, eu cynnyrch gweithgynhyrchu a’u cadwyn gyflenwi, gan greu nwyddau a gwasanaethau sy’n gynaliadwy ac o werth uwch, a’u cynnig i farchnad fyd-eang.
Mae cydweithrediadau gwirioneddol ASTUTE 2020 rhwng diwydiant ac academi yn darparu i gwmnïau:
Trwy hynny, mae’n ysgogi datblygiad o syniadau ac yn hwyluso’r broses o fabwysiadu newid drwy waith ymchwil, datblygu ac arloesi.
Mae ASTUTE 2020 yn ychwanegu at agweddau mwyaf llwyddiannus y prosiect ASTUTE blaenorol (2010 – 2015). Mae ASTUTE wedi bod yn llwyddiannus yn dangos ein bod ni mewn sefyllfa ragorol i gefnogi cwmnïau drwy gyfnewid gwybodaeth a phrosiectau cydweithredol dwys ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi technolegau gweithgynhyrchu.
Bydd y prosiect o fudd i ardaloedd awdurdod lleol yn ardal y rhaglen yn y Gorllewin a’r Cymoedd.
Targedau | |
Gweithgaredd | Mentrau sy’n cydweithio â sefydliadau ymchwil a gefnogir |
Mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n ariannol | |
Arloesedd | Patentau cofrestredig ar gyfer cynhyrchion/prosesau |
Buddsoddi preifat sy’n cyfateb i gymorth cyhoeddus mewn prosiectau arloesi neu ymchwil a datblygu | |
Mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion/prosesau newydd i’r cwmni | |
Mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion/prosesau newydd i’r farchnad | |
Twf | Cynyddu cyflogaeth mewn mentrau a gefnogir |
Manteision
Hirdymor
|
Cynnydd pellach mewn cyflogaeth |
Mwy o fuddsoddiad gan y cwmni | |
Mwy o wariant yn y gadwyn gyflenwi leol gan y cwmni | |
Mwy o fuddsoddiad allanol i’r cwmni | |
Cynyddu refeniw gwerthiannau a ragfynegwyd | |
Cynyddi refeniw allforio a ragfynegwyd | |
Arbedion o ran ynni, allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff |
Mae ASTUTE 2020 yn gweithio’n weithredol gyda’r diwydiant gweithgynhyrchu ledled Cymru, gan gydweithio ar brosiectau a arweinir gan y galw yn y diwydiant.
Hyd yma, mae dros 80 o gwmnïau wedi bod yn rhan o gydweithrediadau ymchwil cymhwysol ASTUTE 2020 sy’n galluogi twf trawsnewidiol a chynaliadwy ar draws diwydiannau gweithgynhyrchu Cymru.
Mae 33 o brosiectau cydweithredol wedi eu cwblhau hyd yma ac o ganlyniad mae’r cwmnïau wedi cynyddu eu gweithlu, gan wella a buddsoddi mewn prosesau newydd neu brosesau sydd eisoes yn bodoli, gan lansio cynnyrch newydd a denu buddsoddiadau allanol.
Mae ASTUTE 2020 wedi bod yn weithredol ers 1af Gorffennaf 2015, yn bennaf yng Ngorllewin Cymru.
Gan fanteisio ar £8m ychwanegol a roddwyd ar 1af Chwefror 2018, mae ASTUTE 2020 bellach yn gallu cefnogi busnesau gweithgynhyrchu ledled Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Powys, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae ASTUTE 2020 wedi derbyn nifer iach o ymholiadau gan gwmnïau gweithgynhyrchu. Mae’r broses o gymeradwyo prosiect gyda chyfranogiad diwydiannol yn gweithio’n dda ac mae nifer iach o brosiectau ar ddyfod yn y broses gymeradwyo a chydweithredu parhaus.
Mae naw o gydweithrediadau wedi’u cwblhau hyd yn hyn, yn darparu cefnogaeth werthfawr i’r cwmnïau sydd, o ganlyniad, wedi cynyddu eu gweithlu, wedi buddsoddi mewn prosesau newydd neu wedi gwella prosesau sy’n bodoli eisoes, wedi lansio cynhyrchion newydd ac wedi denu buddsoddiad allanol.