Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi BBaCh ledled Cymru a dyma pam rydym yn buddsoddi £86m hyd at 2020 yn ein rhaglen sy’n cael ei chyllido o Ewrop, Busnes Cymru, er mwyn sicrhau bod entrepreneuriaid a BBaCh yn cael yr wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen er mwyn sefydlu, datblygu a ffynnu.
Mae cam diweddaraf Busnes Cymru yn ceisio creu 10,000 o fusnesau newydd, 28,300 o swyddi newydd a darparu cefnogaeth i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Mae Busnes Cymru yn darparu i fusnesau ac entrepreneuriaid bwynt cyswllt unigol ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i fusnesau gan y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ac maent ar gael yn ddigidol ar y wefan Busnes Cymru ac ar sianelau cyfryngau cymdeithasol; llinell gymorth 03000 6 03000; a rhwydwaith o swyddfeydd sydd wedi’u lleoli ledled Cymru gyda gwasanaeth cwbl ddwyieithog.
Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfuniad o gefnogaeth ar-lein, dros y ffôn, un i lawer ac un i un sy’n cael ei theilwra yn unol ag anghenion y cleient a’r gwahanol ranbarthau yng Nghymru, gan ddibynnu ar y gofynion lleol.
Mae Busnes Cymru yn darparu amrywiaeth o gyngor busnes cyffredinol, gwybodaeth a chyfeirio, yn ogystal ag elfennau arbenigol o gyngor, fel cydraddoldeb ac amrywiaeth; effeithlonrwydd adnoddau; masnach ryngwladol; sgiliau; caffael; a mentora.
Gall busnesau gael cefnogaeth drwy gyr wefan a’r llinell ymholiadau Busnes Cymru.
Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae unigolion sydd eisiau sefydlu busnes a Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) sydd wedi sefydlu o bob sector ledled Cymru yn gymwys am gefnogaeth.
https://twitter.com/BusnesCymruGog
https://twitter.com/busnescymruCG