Mae Cynllun Gwresogi Lleol Caerau yn gynllun arddangos a fydd yn darparu gwres carbon isel i fwy na 700 o eiddo domestig ac ysgol gynradd yng Nghaerau. Dyma ei nod:
Bydd y Prosiect yn defnyddio’r seilwaith a’r systemau cefnogi angenrheidiol i ddefnyddio adnodd geo-thermal lleol (dŵr mwynglawdd).
Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Raglen Cyllid Buddsoddi Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd 2014–2020 drwy Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, Blaenoriaeth 3 (Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni). Mae’n bodloni Amcan Strategol 3.2 – Cynyddu nifer y cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fechan sy’n hyfyw yn fasnachol.
Bydd Partneriaeth Ynni Gymunedol (llywodraethu) a Chwmni Gwasanaeth Ynni (ESCO – darparu) sydd wedi’u caffael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) yn rheoli’r ddarpariaeth. Bydd rheolaeth strategol y prosiect, y mewnbwn arloesi a’r llywodraethu lefel uchel yn cael eu harwain gan CBSP mewn partneriaeth â’r corff cenedlaethol: Energy Systems Catapult – Rhaglen SSH.
Bydd y prosiect yn benodol i Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae graddfa’r adnodd o dan y ddaear wedi cael ei phrofi drwy ddrilio twll turio. Mae gwaith ymgysylltu cymunedol wedi digwydd i gynnal a rhoi gwybodaeth i’r gymuned. Mae’r prosiect wedi bod yn destun ymarfer ailbroffilio a bu oedi gydag ef yn ystod hanner olaf 2019. Mae Nordic Heat wedi cael y contract yn awr i gynhyrchu Cynllun Darparu Prosiect Manwl, i edrych ymhellach ar yr adnodd o dan y ddaear ac i ddatblygu’r gwaith technolegol-economaidd sy’n cael ei gynnal gan Challoch Energy. Mae tîm cyfreithiol wedi’i gaffael hefyd i ddatblygu’r SPV.