Diweddariad CCR

Chw 28, 2022

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP)

Mae Partneriaeth Sgiliau CCR wedi bod yn gweithio i ddatblygu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd rhanbarthol newydd a fydd yn cael ei lansio yn hydref 2022. Er mwyn cefnogi’r broses ymgysylltu hollbwysig, bydd y CCRSP yn cynnal digwyddiad yn ddiweddarach eleni a bydd y pwrpas yn ddeublyg. Yn gyntaf, bydd y digwyddiad yn rhoi hwb i drafodaethau gyda chyflogwyr, rhanddeiliaid a darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 i helpu i nodi’r heriau sy’n ymwneud â sgiliau y mae angen mynd i’r afael â hwy. Yn ail, bydd y CCRSP yn defnyddio’r digwyddiad fel cyfle i hyrwyddo Gwarant Pobl Ifanc (YPG) Llywodraeth Cymru i randdeiliaid allweddol ar draws De Ddwyrain Cymru ac i annog cydweithio ar draws y rhanbarth. Yn hyn o beth, mae’r CCRSP wedi ymrwymo i ddeall y tirlun rhanbarthol yn well ac i gwmpasu’r addysg, y gyflogaeth, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth / darpariaeth llesiant sydd ar gael i bobl ifanc yn lleol ac yn rhanbarthol ar hyn o bryd.

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad hwn cysylltwch â: regionalSkillsPartnership@newport.gov.uk

Diweddariad Strategaeth Ynni

Mae’r tîm Ynni, Trafnidiaeth a Seilwaith wedi bod yn brysur iawn gyda thrawstoriad eang o brosiectau yn ystod y misoedd diwethaf:

  • Mae ECOFlex yn dechrau dod i drefn a bydd gweithgor yn cyfarfod yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 14eg
  • Mae pwysigrwydd y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn cynyddu wrth ystyried y cynnydd sydyn mewn prisiau ynni sy’n golygu y bydd llawer o aelwydydd, yn anffodus, yn dod o dan y diffiniad o dlodi tanwydd.
  • Bydd ECO4 yn cael ei weithredu ar raddfa ranbarthol am y tro cyntaf ers ei sefydlu, gan sicrhau y bydd y stoc dai gyfan o fewn CCR yn gallu gwneud cais am y cynllun os ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd hyblyg. Eu nod yw cael Datganiad o Fwriad ar y Cyd yn nodi’n union pa aelwydydd fydd yn gymwys erbyn diwedd mis Mawrth fan bellaf.

Maent hefyd wedi bod yn gweithio ar sefydlu Clymblaid Hinsawdd fel y rhai sy’n rhan o’r Rhwydwaith Gweithredu Hinsawdd Seiliedig ar Le (PCAN), fel Comisiynau Leeds, Caeredin a Belfast. Mae manteision sefydlu clymblaid sy’n dod â’r sector cyhoeddus, arweinwyr busnes, arweinwyr o’r 3ydd sector a’r byd academaidd at ei gilydd yn allweddol i bontio’r diffyg gwybodaeth ynghylch datgarboneiddio. Y gobaith yw y bydd sefydlu clymblaid fel hon yn fforwm hanfodol ar gyfer unrhyw beth net sero ar draws y Rhanbarth. Mae cynllun yn cael ei roi ar waith i ffurfio Grŵp Llywio a fydd yn datblygu i fod yn Glymblaid yn y pen draw erbyn diwedd y flwyddyn.

Media.cymru

Mae CCR wedi cadarnhau £3m o gyllid ar gyfer media.cymru, menter unigryw gwerth £50m i drawsnewid sector cyfryngau’r rhanbarth yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu ar y cyfryngau, gan sicrhau ei fod yn dod yn brif sbardun economi’r rhanbarth. Roedd yn destun cais llwyddiannus gwerth £22.25m i Gronfa Cryfder Mewn Llefydd (SIPF) UKRI, gan sicrhau £28m o gyllid ar y cyd a chefnogaeth mewn nwyddau ar draws y consortiwm sy’n cynnwys 24 o bartneriaid – darlledwyr, cwmnïau cyfryngau a thechnoleg, stiwdios, prifysgolion a phartneriaid sy’n cydweithredu.

Gan adeiladu ar gryfderau CCR fel y trydydd clwstwr cyfryngau mwyaf yn y DU, bydd media.cymru yn creu seilwaith sy’n canolbwyntio ar y dyfodol mewn cynhyrchu rhithwir, golygu o bell a chysylltedd, datblygu ecosystem Ymchwil a Datblygu yng nghlwstwr cyfryngau’r rhanbarth ac uwchsgilio’r gweithlu i gynhyrchu cwmnïau a thalent arloesol.

Mwy o wybodaeth

Metro Plus

Mae gwaith yn mynd rhagddo’n ffisegol yn awr ar rai o’r cynlluniau Metro Plus.

Yng Nghaerdydd, mae Cynllun Trafnidiaeth Dwyrain Canol y Ddinas bellach ar y safle gyda’r gwaith yn canolbwyntio ar newid Teras yr Orsaf, rhannau o Deras Bute, Stryd Adam, Churchill Way a Gogledd Stryd Edward er mwyn iddynt allu gwneud lle i’r canlynol:

  • gwell blaenoriaeth i fysiau i’r ddau gyfeiriad drwy ardal y prosiect,
  • cael gwared ar draffig trwodd a gwella ansawdd yr aer.
  • gwell croesfannau i gerddwyr, mannau cyhoeddus, a diogelwch ar y ffyrdd.
  • llwybr beicio wedi’i wahanu’n llawn.
  • gwell cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy â Gorsaf Heol y Frenhines.

Yn ogystal, mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar Hyb Trafnidiaeth y Porth sydd â’r nod o ddarparu cyfnewidfa fysiau a threnau integredig fodern ar gyfer y dref yn ogystal â chreu safle tacsis a storfeydd beiciau, gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn eu lle, ac uwchraddio’r rhwydwaith Teithio Llesol lleol. Mae Encon Construction Cyf. wedi’i gontractio i gwblhau’r cynllun gyda’r gwaith wedi dechrau ganol mis Ionawr. Hyd yma mae’r gwyrddni wedi’i glirio i gyd bron o’r safle ac mae’r gwaith carreg a thyllau prawf wedi’u drilio. Mae’r holl brosesau sy’n ymwneud â’r rheilffordd yn mynd rhagddynt yn dda hefyd.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y rhaglen Metro Plus ehangach gael gwybod mwy drwy gasgliad ‘Siarad am Drafnidiaeth’ diweddar CCR, sy’n cynnwys diweddariadau sain gan bob un o’r 10 Awdurdod Lleol.