Mae’n bleser gan WEFO gyhoeddi bod Mike Hedges AS wedi cymryd rôl Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru ar gyfer y rhaglenni Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (2014-2020).
Daw Mike â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad fel Aelod o’r Senedd ar gyfer Dwyrain Abertawe am ychydig dros ddegawd, yn ogystal â chynrychioli Treforys ar Gyngor Sir Abertawe cyn hynny, ac fel llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar wasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth.
Fel Cadeirydd, bydd Mike yn allweddol wrth gynghori ar weithredu’r rhaglenni Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn effeithiol, sy’n parhau i helpu i lunio ein strategaeth ar gyfer sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i Gymru hyd at Ragfyr 2023 a thu hwnt, yn enwedig yng ngoleuni’r DU yn gadael yr UE.
Mynychodd Mike ei gyfarfod cyntaf fel Cadeirydd y Pwyllgor ddydd Iau 2 Rhagfyr a dywedodd, ‘Rwy’n falch iawn o fod yn ymwneud eto â chyllid Ewropeaidd ac er ein bod yn gwybod bod cyllid Ewropeaidd yn dod i ben, mae’n rhaid i ni wneud y defnydd gorau o’r arian sydd gennym o hyd i’w wario.’
Gweld papurau cyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Monitro Rhaglenni