Diweddariad Busnes Cymru

Chw 28, 2022

 

Mae gwybodaeth am eich holl Gefnogaeth Sefydlu ar gael yn Cynllunio i Sefydlu Busnes | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Grant Rhwystrau’n Atal Sefydlu

Pwrpas y grant yw galluogi unigolion economaidd anweithgar a di-waith i sefydlu busnes yng Nghymru a bydd yn targedu’n benodol unigolion sy’n wynebu rhwystrau’n atal sefydlu busnes a’r farchnad gyflogaeth. Bydd y grant hwn yn rhan o’r pecyn cymorth ehangach a fydd yn cynnwys cyngor un i un a gweminarau i feithrin hyder mewn arferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer sefydlu busnes.

  • Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu unigolion i oresgyn rhwystrau i ddechrau busnes. Mae’r ceisiadau yn agored i unigolion sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith.
  • Wrth ddyrannu cyllid, rhoddir blaenoriaeth i’r unigolion hynny sy’n wynebu rhwystrau sy’n atal sefydlu busnes ac sydd bellaf allan o’r farchnad gyflogaeth.

I wneud cais dylech fod yn:

  • Economaidd anweithgar neu’n ddi-waith
  • Eisiau sefydlu busnes hunangyflogedig yng Nghymru

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy’n nodi eu bod:

  • Â chyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar waith ac anabl
  • Yn Bobl Dduon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig
  • Merched
  • Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant (NEETS) 18 i 24 oed neu unigolion sydd wedi gadael Coleg neu Brifysgol ers 2019 sydd ar gontract am lai nag 20 awr yr wythnos.

Cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000603000 am fwy o wybodaeth. Grant Rhwystau’n Atal Sefydlu | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Digwyddiadau ymgysylltu cynaliadwyedd

Mae Busnes Cymru yn cefnogi busnesau i leihau eu hôl troed carbon. Cynhelir ein cyfres Uchelgais Gwyrdd rhwng 21ain a 25ain Mawrth 2022 gan gynnwys cyngor busnes un i un ac adnoddau ar gyfer pob busnes yng Nghymru gyda sesiynau gweminar arbenigol yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Pecynnu plastig a gweithgynhyrchu
  • Dylunio cynnyrch ac arloesi
  • Sgiliau mesur effaith a chynaliadwyedd
  • Datblygiadau marchnad a datgarboneiddio

Er mwyn cael mynediad at y digwyddiadau hyn, ewch i Uchelgais Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)