Newyddion Prosciectau ERDF P1: MAGMA

Ebr 28, 2022

MAGMA – mynd â phrosiect ERDF i mewn i ysgolion

Mae MAGMA ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael ei gyllido’n rhannol gan ERDF i sefydlu gallu ymchwil o safon byd gydag arbenigedd cydnabyddedig mewn prosesu, nodweddu, gweithgynhyrchu ac ailgylchu deunyddiau magnetig arbenigol. Mae MAGMA wedi ychwanegu capasiti ymchwil ategol newydd ac wedi adnewyddu labordai, gan gynnwys systemau dynamometr newydd ar gyfer profi cerbydau trydan modern, a chyfrifiaduron, meddalwedd ac arbenigedd ar gyfer modelu, efelychu a dylunio magnetig.

Diolch i rywfaint o gyllid ychwanegol o Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) mae staff MAGMA wedi bod yn mynd â’u gwaith allan i’r gymuned. Nod MAGMA yw cyflawni nifer o themâu trawsbynciol fel ehangu mynediad, gweithgareddau STEM, ymgysylltu â’r gymuned, annog gyrfaoedd ym maes STEM a diolch i rywfaint o gyllid ychwanegol gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) mae staff MAGMA wedi bod yn gwneud hynny.

Magnations (Animeiddiadau Magnetig)

Mae aelodau o’r grŵp ymchwil Deunyddiau Magnetig a’u Defnydd (MAGMA) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Mount Stuart yn ddiweddar i gynnal cwrs wyth wythnos ar animeiddio deunyddiau magnetig. Mae’r tîm yn MAGMA yn angerddol yn naturiol am addysgu cenedlaethau’r dyfodol am ddeunyddiau magnetig, y ffordd maent yn cael eu defnyddio mewn llawer o eitemau bob dydd a’r rôl bwysig y byddant yn ei chwarae yn yr economi werdd. Mae’r tîm yn gobeithio y bydd ymgysylltu â gweithgareddau fel hyn yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i gysylltu â, ac, un diwrnod, cyfrannu at yr ymchwil arloesol i ddatblygu De Cymru fel canolbwynt ar gyfer datblygiadau mewn ymchwil, gweithgynhyrchu a defnyddio magneteg.

Fel rhan o’r rhaglen, cafodd y plant gyfle i adeiladu eu moduron syml eu hunain, gan fynd i mewn i feddylfryd peiriannydd i oresgyn problemau dylunio a gwneud i’r moduron droelli. Roedd cyffro’r plant yn anhygoel, gan ddangos grym ysbrydoledig gwyddoniaeth ac addysg. Mae’n galonogol tybio bod llawer o’r plant yn lledaenu’r gair am ddeunyddiau magnetig gyda’u ffrindiau a’u teulu ar y ffordd adref y diwrnod hwnnw.

Gan fanteisio ar fomentwm yr ymweliad cyntaf â’r ysgol, yn ystod y 7 wythnos ddilynol datblygodd y plant eu fideos animeiddio byr eu hunain gan ddefnyddio sgiliau a ddysgwyd gan y cwmni animeiddio lleol Winding Snake i ddangos eu gwybodaeth newydd am fagneteg. Un pwnc y bu’r plant yn rhoi sylw iddo gyda’u hanimeiddiadau yw rhwydweithiau pŵer y dyfodol ac roeddent yn llawn brwdfrydedd o dderbyn ymweliad gan gynrychiolydd o Western Power Distribution i drafod y maes hynod bwysig hwn. Mae’r pynciau eraill yn cynnwys moduron / generaduron, trafnidiaeth yn y dyfodol a hanfodion deunyddiau magnetig.

Mae’r animeiddiadau a grëwyd gan y plant bellach yn nwylo Winding Snake, y cwmni cynhyrchu animeiddiadau, a fydd yn ôl-brosesu ac yn cwblhau’r fideos yn derfynol yn y dyfodol agos.

Bydd yr animeiddiadau terfynol yn cael eu defnyddio gan grŵp ymchwil MAGMA i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, diwydiant, y gymuned leol a grwpiau ymchwil eraill o bwysigrwydd deunyddiau magnetig a’r ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd. Y gobaith yw y bydd yr arddull animeiddiedig a gyflwynir gan y plant ysgol yn gwneud y pwnc yn fwy hygyrch ac yn ennyn diddordeb yn y maes cynyddol bwysig hwn.

Cyllidwyd yr ychwanegiad hwn at weithredoedd ERDF MAGMA drwy gronfa ymgysylltu â’r cyhoedd Arloesi i Bawb Prifysgol Caerdydd. Cefnogir y cynllun hwn gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am eu gwaith gyda’r gymuned leol neu’r ymchwil maent yn ei wneud yn MAGMA i brosesu, nodweddu, gweithgynhyrchu ac ailgylchu deunyddiau magnetig arbenigol, e-bostiwch magma-project@cardiff.ac.uk.

Mwy o wybodaeth am MAGMA