Newyddion Prosiectau ERDF P1: SPECIFIC

Ebr 28, 2022

Gwobrau diddiwedd i SPECIFIC 

Y llynedd dyfarnwyd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i brosiect hirsefydlog SPECIFIC sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe i gydnabod ei ymchwil Gwyddoniaeth Deunyddiau a Pheirianneg sy’n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn enwedig trydan solar a chynhyrchu a storio gwres.

Yn ystod y deng mlynedd ers sefydlu SPECIFIC, mae ei gyflawniadau yn cynnwys yn cynnwys y canlynol:

  • Cell solar wedi’i sensiteiddio gan lifyn gyntaf y byd wedi’i dyddodi’n uniongyrchol ar swbstrad dur sy’n alluogwr hanfodol i weithgynhyrchu ffotofoltäig wedi’i integreiddio mewn adeiladau ar raddfa fawr.
  • Gostyngiad yn yr amser i ddarparu datrysiad cost isel ffotofoltäig prosesadwy o 30 munud i 2.5 eiliad.
  • Dulliau newydd sy’n lleihau’r amser gweithgynhyrchu ar gyfer celloedd solar wedi’u sensiteiddio gan lifyn o sawl awr i lai na dau funud.
  • Ystafell ddosbarth ynni positif gyntaf y DU sy’n dangos y gall ynni solar bweru a gwresogi adeiladau.
  • Prosiectau cydweithredol gyda 211 o fusnesau a 128 o bartneriaid ymchwil ac academaidd mewn 17 o wledydd.
  • Chwe chwmni deillio yn creu swyddi ac yn cefnogi piblinell arloesol ar gyfer deunyddiau adeiladu dur.
  • Gweithio gyda dwy gymdeithas dai leol i ddatblygu 18 o gartrefi carbon isel ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.

Nawr, mae cangen o Brifysgol Caerdydd o’r prosiect wedi derbyn gwobr Hyrwyddwr yr Amgylchedd yng ngwobrau Dewi Sant eleni. Cafodd Tîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) y Brifysgol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ei gydnabod am ei waith yn helpu i leihau allyriadau carbon yn sylweddol mewn tai tra’n gwella amodau a lleihau biliau ynni.

Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill, mae tîm LCBE wedi dangos ei bod yn bosibl cyfuno datrysiadau sydd ar gael ar y farchnad i leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau tra’n gwella’r amgylchedd adeiledig ac ysgogi’r economi. Mae’r enghreifftiau o waith y tîm yn cynnwys dylunio ac adeiladu’r tŷ SOLCER fforddiadwy, ynni positif, a ysbrydolodd gynllun grant gwerth £10 miliwn gan y llywodraeth i adeiladu tai fforddiadwy, carbon isel newydd ledled Cymru.

Darparodd Tîm LCBE ddata hanfodol hefyd ar gyfer adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar sut i ddatgarboneiddio tai presennol yn fwy effeithlon. Dylanwadodd y gwaith hwn ar y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) lle mae mesurau carbon isel yn cael eu gosod mewn hyd at 1,700 o gartrefi, gan gynnwys pympiau gwres, systemau ynni deallus a phaneli solar.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Jo Patterson, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru: “Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gan brofi bod tai fforddiadwy carbon isel yn bosibl ac yn hollbwysig os ydym am gwrdd â’n targedau sero net yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Ar ben hynny, mae ein gwaith wedi cael effaith bendant a chadarnhaol ar fywydau bob dydd llawer o bobl sy’n byw ledled Cymru, er enghraifft, gan arbed hyd at £1,000 y flwyddyn ar filiau ynni aelwydydd.”

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru, gyda 10 gwobr yn cael eu rhoi bob blwyddyn mewn categorïau yn amrywio o ddewrder ac ysbryd cymunedol, i arloesi, gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu hawgrymu gan aelodau’r cyhoedd a Phrif Weinidog Llywodraeth Cymru a’i gynghorwyr sy’n penderfynu ar yr enillwyr.

Mwy o wybodaeth am SPECIFIC yng Nghaerdydd