ESF Blaenoriaeth 3: STEM Cymru

Rha 17, 2021

Mae cystadleuaeth STEM Cymru F1 mewn Ysgolion yn cynnwys timau o fyfyrwyr, 11 i 19 oed, yn dylunio a gweithgynhyrchu ceir rasio F1 model wedi’u pweru gan CO2 gan ddefnyddio meddalwedd dylunio gyda chymorth cyfrifiadur a thechnegau gweithgynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur (CAD / CAM). Mae’r her yn ysbrydoli myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau STEM. Gall ysgolion gynnwys cymaint o ddisgyblion ag y dymunant a gallant gofrestru pum tîm o hyd at chwe myfyriwr yn rowndiau terfynol rhanbarthol Cymru.

“Roedd rhaid i ni gael cefnogaeth gan lawer o wahanol gwmnïau – un o’n cefnogwyr mwyaf oedd EESW gan eu bod wedi ein helpu i wneud ein car yn beirianyddol.’ – Hypernova Bro Edern

Ar ôl cofrestru, mae gan ysgolion fynediad at ystod lawn EESW o diwtorials fideo CAD a chanllawiau PDF, sy’n mynd â myfyrwyr o lawrlwytho’r meddalwedd CAD am ddim i ddylunio, cydosod a rendro eu car F1 eu hunain.

“Cefais fy synnu’n fawr gan gymaint oedd i’w wneud oedd ddim am ddylunio’r car. Pan es i i mewn i hyn, roeddwn yn disgwyl y byddai’r cyfan yn ymwneud â’r car a’r rasio, ond fe wnes i fwynhau’r elfen nawdd a marchnata yn fawr iawn.’’ – Imperium Bro Edern

Asesir timau ar gyflymder y car, y dylunio peirianneg, datblygiad, deunyddiau hyrwyddo, arddangosfeydd pit a chyflwyniadau llafar. Mae pob tîm yn cystadlu am wobrau mawreddog gyda’r siawns o gynrychioli Cymru yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol a Byd.

Gall EESW STEM Cymru ddarparu dyddiau rasio mewn ysgolion a phrofi twnnel gwynt, lle gall disgyblion ddysgu sut i wella aerodynameg eu ceir. Gall EESW hefyd ddarparu ymweliadau cefnogi ag ysgolion. Mae’r holl sesiynau am ddim i ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Mae’n brofiad anhygoel nad ydyn ni byth yn mynd i’w anghofio – St Johns Blackout

Mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion.