Newyddion prosiectau B1 ESF: CfW RhCT – astudiaeth achos

Meh 30, 2022

Mae JP wedi bod yn friciwr ers 20 mlynedd a mwy. Fodd bynnag, pan gafodd ei atgyfeirio, roedd wedi bod yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ers sawl blwyddyn ac yn dioddef o orbryder ac iselder. Roedd angen cymhwyster NVQ a thocyn CSCS i weithio ar adeiladau, ac roedd eisiau rhywbeth i’w wneud dros fisoedd y gaeaf hefyd. Er bod JP wedi bod yn friciwr ers 20 mlynedd, nid oedd ganddo unrhyw gymwysterau i ddangos hyn.

Ei brif ddyheadau oedd cael NVQ mewn Gosod Brics a chael tocyn CSCS, fel y gallai weithio yn ei broffesiwn gwreiddiol. Roedd yn gwybod o brofiad blaenorol mai cyfyngedig iawn oedd gwaith bricio dros y gaeaf, ac felly roedd am fod yn ecstra ar y teledu, fel y gallai wneud y math hwn o waith dros y gaeaf a gosod brics yn yr haf, gan sicrhau incwm gydol y flwyddyn.

Helpodd C4W ef i gofrestru ar wefannau asiantaeth ar gyfer ecstras teledu, creu ei broffil a lanlwytho ffotograffau. Yn y cyfamser, roedd ei fan wedi torri felly doedd ganddo ddim cludiant ei hun mwyach. Roedd y gwaith a gynigiwyd iddo’n dechrau am 6 y bore, a doedd dim gobaith y gallai gyrraedd drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yna, daeth Covid 19 a diflannodd pob gwaith yn y maes hwn.

Cafodd hyfforddiant gan C4W ar gyfer ei CSCS a chyllid ar gyfer ei gerdyn briciwr dan hyfforddiant. Daeth y prosiect o hyd i goleg a fyddai’n gadael iddo wneud y NVQ, ac fe wnaeth ei gynghorydd ei helpu i lanlwytho ei holl waith ysgrifenedig ar-lein ar gyfer y NVQ gan nad oedd yn llythrennog mewn TG a dim ond ffôn oedd ganddo. Ar ôl cwblhau ei waith ysgrifenedig, daeth C4W o hyd i gyflogwr iddo gynnal ei asesiadau. Enillodd gymhwyster – NVQ Lefel 2 City and Guilds mewn defnyddio trywel.

Penderfynodd yr hoffai fod yn yrrwr tacsi gydol y gaeaf i gwmni sydd â’i geir ei hun, felly ni fyddai angen unrhyw drafnidiaeth arno. Credai JP y byddai hyn yn ffordd dda iddo fynd yn syth i weithio ac y gallai gynilo ar gyfer car/fan a fyddai o help mawr gyda’i waith fel briciwr, a hefyd, gan fod y gaeaf yn agosáu ar y pryd, teimlai y byddai’n anos cael gwaith gosod brics rheolaidd.

Helpodd y prosiect y cyfranogwr i wneud cais am y drwydded tacsi, talodd y ganolfan waith am y cymhwyster SQA, ac fe wnaeth y gronfa Rhwystrau dalu am y drwydded, archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, prawf meddygol, a’r prawf Gwybodaeth a Rhifedd.

Mae JP wedi cael ei drwydded tacsi erbyn hyn ac wedi dechrau gweithio gyda chwmni Xarrowtravel fel gyrrwr bysiau ysgol, ac maen nhw’n cynnig gwaith tacsi iddo ar benwythnosau hefyd.

 

Roedd ganddo ddau nod – swydd ar gyfer y gaeaf ac un ar gyfer yr haf i gynnal ei incwm gydol y flwyddyn. Pe bai wedi mynd i mewn i’r diwydiant adeiladu, byddai hynny wedi effeithio ar ei sefyllfa ariannol ac ansawdd ei fywyd pan nad oedd unrhyw waith, ac ni fyddai wedi gallu cynnal ansawdd ei fywyd gydol y flwyddyn. Roedd bod allan o waith a heb arian yn effeithio ar ei iechyd meddwl. Nawr bod y cymhwyster briciwr a’r drwydded tacsi ganddo bydd hyn yn ei helpu i aros mewn gwaith drwy’r flwyddyn a gwella ei iechyd meddwl gan ei gwneud yn fwy tebygol na fydd yn hawlio budd-dal yn y dyfodol.

Dechreuodd JP weithio ar 28/1/22, mae wedi bod mewn cysylltiad â’r prosiect ac mae popeth yn mynd yn dda: mae’n mwynhau’r gwaith yn fawr ac yn teimlo bod ei iechyd meddwl wedi gwella trwy fynd allan o’r tŷ a chwrdd â phobl. Roedd yn gweithio 16 awr yn gyrru bysus ysgol ond mae bellach yn gweithio ar nos Wener hefyd gan gynyddu ei oriau i 24.

Darganfod mwy am about Cymunedau am Waith