Ehangu rhaglen CfW+ yn 2023

Meh 30, 2022

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gwaith o ehangu rhaglen gyflogadwyedd CfW+ ym mis Ebrill 2023, gan ddyblu ei chyllideb wreiddiol o £12 miliwn, er mwyn helpu i bontio’r bwlch fydd ar ôl yn sgil cau rhaglenni cyflogadwyedd a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gan gynnwys Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE).

Wrth gyhoeddi, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Er gwaethaf addewid Llywodraeth y DU na fyddai Cymru ar ei cholled wrth i’r DU adael yr UE, y realiti yw ein bod yn wynebu colled o fwy nag £1 biliwn mewn cyllid. Ni all Llywodraeth Cymru ddim llenwi’r twll enfawr mae Llywodraeth y DU wedi’i greu yng nghyllideb Cymru, sy’n golygu y bydd angen i ni a’n partneriaid yng Nghymru – sydd wedi elwa o gyllid yr UE o’r blaen – wneud penderfyniadau anodd ar beth i’w ariannu yn y dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu pobl i swyddi o ansawdd da ac aros mewn swyddi o ansawdd da. Dyna pam rydyn ni’n cymryd camau i ariannu rhaglen newydd i Gymru gyfan i gefnogi pobl i wneud hynny. Drwy ariannu ehangu Cymunedau dros Waith a Mwy a chanolbwyntio ar bobl sydd wedi’u tangynrychioli yn y farchnad lafur a’r rhai sy’n wynebu anfantais ac annhegwch wrth gael gwaith, byddwn yn creu Cymru sy’n fwy cyfartal – cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.”

Cadarnhaodd Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mawrth 2022, y bydd cymorth cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar y rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur, ac ar wella canlyniadau’r farchnad lafur i bobl anabl, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod, pobl ifanc, gweithwyr hŷn dros 50 oed, gofalwyr a’r rhai â sgiliau isel. Bydd rhaglen estynedig Cymunedau dros Waith a Mwy yn cyd-fynd â ReAct + a Twf Swyddi Cymru +, i gyflawni ymrwymiad y Cynllun i ddarparu un model gweithredu o gymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru o 2023 ymlaen.

Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Darllen y cyhoeddiad llawn ar wefan y Llywodraeth.