Cyhoeddwyd mai Rhaglen Graddedigion Cymru oedd “Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn (Sector Preifat)” yng Ngwobrau STEM Cymru 2022 a gynhaliwyd eleni yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd ar 27 Hydref. Mae’r categori hwn yn cydnabod busnesau sy’n mynd i’r afael â bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau STEM, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Rhaglen wedi’i chyllido o dan Flaenoriaeth 2 Cronfa Gymdeithasol Ewrop yw Rhaglen Graddedigion Cymru, a reolir gan Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru. Fe’i sefydlwyd i ddenu graddedigion STEM i rolau ym meysydd Data, Deallusrwydd Artiffisial (AI) a’r Gwasanaethau Ariannol a’u datblygu yn y rolau hynny wedyn, gyda golwg ar gadw’r doniau gorau yng Nghymru. Mae’n cynnig dwy raglen i raddedigion; rhaglen gwasanaethau ariannol sy’n para dwy flynedd a rhaglen llwybr cyflym ym maes Data/Deallusrwydd Artiffisial sy’n para 10 mis.
Enillwyr Gwobrau STEM Cymru 2022:
Dywedodd Rheolwr Cyflwyno’r Rhaglen Graddedigion, Caroline Jerrett: “Mae’n dda gweld y Rhaglen yn ennyn cydnabyddiaeth am y gwaith y mae pawb sy’n ymwneud â hi wedi’i gyflawni i gynyddu ymwybyddiaeth o yrfaoedd STEM i gronfa talent graddedigion amrywiol.
Mae ein cydweithio unigryw rhwng diwydiant ac addysg wedi caniatáu i ni addasu ac ymateb yn ystwyth i’r dirwedd sy’n newid yn barhaus, er mwyn paratoi graddedigion STEM â’r sgiliau angenrheidiol i sbarduno arloesi a thwf economaidd a helpu i gau’r bwlch sgiliau sydd wedi bod yn effeithio ar fusnesau.”
Ymhlith y cyflogwyr a fu’n ymwneud â’r Rhaglenni y mae Admiral, Atradius, sa.global, Hodge Bank, Cymdeithas Adeiladu Principality, Opel Vauxhall Finance a Pepper Money ac ers y cychwyn mae 214 o raddedigion wedi cwblhau’r rhaglen gyda 91% ohonynt ar gyfartaledd yn sicrhau swyddi sy’n talu’n dda erbyn diwedd eu lleoliad terfynol.
Cliciwch isod i wylio clip fideo byr ynghylch prosiect Rhaglen Graddedigion Cymru. Mae’n cynnig cipolwg ar ffilm estynedig ynghylch Blaenoriaethau 1 a 2 Cronfa Gymdeithasol Ewrop a fydd yn dilyn yn y flwyddyn newydd.