Infuse a’r Frwydr yn Erbyn Newid Hinsawdd

Med 30, 2022

Y newyddion diweddaraf gan y rhaglen Infuse: Llenwi ein sector cyhoeddus â dyfeisgarwch a sgiliau arloesol

Mae ein sector cyhoeddus yn newid yn llwyr o flaen ein llygaid, ac mae’r rhaglen Infuse yn cynnig ffyrdd o fynd i’r afael â heriau mwyaf y rhanbarth gyda phob carfan o ddysgwyr.

Dechreuodd Carfan Dau ym mis Mehefin eleni gyda 36 o aelodau cyswllt o 9 awdurdod lleol a 9 aelod cyswllt o sefydliadau a mudiadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Hwn oedd y tro cyntaf i Infuse fod yn agored i bob sefydliad a mudiad yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. O ganlyniad, mae ystod eang o sgiliau ac arbenigeddau’n cydweithio â’i gilydd – gyda chymorth tîm Infuse o gymrodyr ymchwil, gwyddonwyr data ac arbenigwyr ym maes arloesi, data a chaffael. Byddant yn ceisio deall ac ystyried sut mae mynd i’r afael â’r themâu Cyflymu Datgarboneiddio a Cymunedau Cefnogol drwy roi sylw i fater penodol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

O ran Cyflymu Datgarboneiddio ar gyfer y rhanbarth, mae’r carfanau blaenorol eisoes wedi bod yn gweithio gyda dyfeisgarwch er mwyn cymryd camau tuag at nodau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran Sero Net. Bwriad gwaith un o aelodau cyswllt Infuse oedd deall a oes yna gyfle i gynhyrchu ynni drwy broses ‘treulio anaerobig’ sy’n ymwneud â ffrwd wastraff nas defnyddir ar hyn o bryd, er enghraifft baw cŵn. Bu aelod cyswllt arall yn ystyried mapio cartrefi o ran carbon er mwyn blaenoriaethu’r angen i gyflawni gwaith ôl-osod yn y rhanbarth.

Y mis hwn, mae’r dysgwyr presennol (Carfan Dau) wedi cyrraedd y cam yn y rhaglen lle byddant yn dechrau edrych a chanolbwyntio ar her y maent am fynd i’r afael â hi ar ran eu sefydliad a’u cymuned, naill ai ar eu pen eu hunain neu fel grŵp ar y cyd. Bydd Infuse yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y canfyddiadau yn y flwyddyn newydd.

Yn y cyfamser, cadwch eich llygaid ar agor am lythyr newyddion y rhaglen ym mis Medi 2022, a fydd yn ymddangos ddiwedd y mis hwn, lle bydd y rhaglen yn lansio 5 astudiaeth achos newydd o Garfan Un, sy’n cynnwys gwaith archwilio i ddarganfod ffyrdd o gael cerbydau fflyd allyriadau isel a deall y galw am ynni mewn ysgolion er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch buddsoddi. Bydd yr astudiaethau achos hyn  wedi’u cysylltu hefyd â thudalen y rhaglen ar gyfer astudiaethau achos ar wefan Cyngor Sir Fynwy. Yno, gallwch hefyd weld astudiaethau achos eraill sydd wedi’u cyhoeddi o’r blaen:

Darllen astudiaethau achos Infuse ar wefan Cyngor Sir Fynwy.

Yn olaf, bydd y prosiect yn recriwtio Carfan Tri yn ystod yr hydref. Cofiwch gofrestru eich diddordeb mewn ymuno, a bydd Infuse yn siŵr o gysylltu â chi cyn gynted ag y bydd y cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau wedi agor yn swyddogol.

Cofrestru eich diddordeb mewn ymuno â Charfan Tri Infuse