Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Infuse – Gwasanaethau Arloesol y Dyfodol

Disgrifiad o’r prosiect

Rhaglen arloesi ac ymchwil yw Infuse a gynlluniwyd i feithrin sgiliau a chapasiti ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus arloesol yn y dyfodol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Cefnogir Infuse gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Y Lab, Nesta, Swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r deg awdurdod lleol sy’n ffurfio’r rhanbarth, gan gynnwys Cyngor Sir Fynwy fel y partner arweiniol. Bydd y rhaglen yn seiliedig ar gyfleoedd i fynd i’r afael â chwestiynau bywyd real, wedi’u sbarduno gan yr heriau mwyaf sy’n wynebu’r rhanbarth.

Bydd partneriaid a chyfranogwyr Infuse yn nodi amrywiaeth o heriau neu broblemau sy’n cael eu rhannu ar draws y rhanbarth. Gallai’r rhain gynnwys datgarboneiddio, teithio llesol, tai neu ofal cymdeithasol. Gan ddefnyddio’r heriau hyn a rennir, byddwn yn dod â thimau trawsranbarthol at ei gilydd ym mhob un o’r tri maes sgiliau i weithio tuag at ddatrys rhan o’r her hon, gan ddefnyddio adnoddau a dulliau newydd.

Bydd timau’n derbyn tua thri mis o hyfforddiant a chymorth gyda sgiliau, adnoddau a dulliau newydd, ac wedyn tri mis o hyfforddi yn eu sefydliadau eu hunain wrth iddynt fynd yn ôl i’w rhoi ar waith, gan helpu i newid dyfodol y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd i ddod; a datblygu sgiliau a chapasiti arloesi newydd drwy fynd i’r afael â heriau gwasanaethau cyhoeddus rhanbarthol.

Bydd y rhaglen yn weithredol tan 2023, gan weithio gyda thri grŵp o weithwyr awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn cwmpasu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhonda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Gweision Cyhoeddus o’r deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Gobeithiwn ehangu’r cyfle i gefnogi cyfranogwyr eraill yn y Sector Cyhoeddus, y Sector Preifat a’r Trydydd Sector yn y dyfodol agos.

Targedau penodol

  • 3 dull, adnodd a gweithdrefn newydd wedi’u datblygu a’u dosbarthu.
  • 1 prosiect sy’n targedu gweinyddiaethau cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
  • 3 dull, proses neu adnodd yn cael eu datblygu gyda chefnogaeth.
  • Nifer yr endidau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau sy’n targedu gweinyddiaethau cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.

Manylion cyswllt

Enw: Owen Wilce
E-bost: owenwilce@monmouthshire.gov.uk
Rhif ffôn: 07973 559323
Cyfeiriad: Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1GA
Gwefan: WordPress › Error
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,