Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Fideo

Cliciwch i weld y fideo

Astudiaeth Achos 1

Astudiaeth Achos 2

Astudiaeth Achos 3

Ysbrydoli i Gyflawni (Dwyrain Cymru)

Disgrifiad o’r prosiect

Nod yr ymgyrch yw cefnogi’r rhai hynny sydd rhwng 11 a 24 oed i leihau’r posibilrwydd na fyddant mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ar ôl gadael yr ysgol drwy ddarparu ymyraethau cynnar a fydd yn gwella dangosyddion fel presenoldeb, cyrhaeddiad, ymddygiad a lles.

Mae’r ymgyrch Ysbrydoli i Gyflawni (Dwyrain Cymru) yn rhoi pwyslais amlwg ar ymgysylltu â’r rhai hynny y nodwyd eu bod fwyaf mewn perygl mewn lleoliadau addysg. Pan fydd yr unigolyn ifanc yn ymgysylltu â’r ymgyrch datblygir cynllun asesu cyfannol a chynllun gweithredu personol, ar y cyd ag ef. Bydd hwn yn cynnwys asesiad cychwynnol yn rhan o offeryn mesur datblygiad, i asesu pam y cyfeiriwyd yr unigolyn ifanc ac i ddeall yr hyn sydd angen ei ddatblygu a’i wella i sicrhau bod y risg o fod yn NEET yn cael ei leihau.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn gweithio ar draws yr ardaloedd awdurdod lleol canlynol yn Nwyrain Cymru: Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Pobl ifanc (11 – 24 oed) a nodwyd drwy ddefnyddio Offerynnau Nodi yn Gynnar ac Asesiadau Sgrinio mewn Addysg Bellach yr awdurdod lleol eu bod fwyaf mewn perygl o fod yn NEET ar ôl gadael y ddarpariaeth addysg y maent ynddi.

Targedau penodol

Mae gan yr ymgyrch 3 phrif ganlyniad y bydd yn gweithio i gefnogi’r bobl ifanc sydd wedi eu hymgysylltu i’w cyflawni sef:

  • Cyfranogwyr sydd mewn perygl o fod yn NEET (11 – 24) i ennill cymhwysterau wrth adael
  • Cyfranogwyr sydd mewn perygl o fod yn NEET (11 – 24) i fod mewn addysg neu hyfforddiant wrth adael
  • Cyfranogwyr sydd mewn perygl o fod yn NEET (11 – 24) i fod â llai o risg o fod yn NEET wrth adael

Manylion cyswllt

Enw: Huw Wilkinson
E-bost: inspire@newport.gov.uk
Rhif ffôn: 01633 235408
Cyfeiriad: Gwaith, Sgiliau a Pherfformiad, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Godfrey, Casnewydd, NP20 4UR
Gwefan: WordPress › Error
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,