IROHMS (Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol)

Maw 8, 2022

Rydym yn enwog yn rhyngwladol am ein hymchwil drawsnewidiol, am ein hymwneud cadarn â diwydiant a’r sector cyhoeddus, ac am gyflwyno atebion cynaliadwy sy’n effeithiol.

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar lawer o sectorau sydd o bwys strategol i Gymru, y DU a’r byd ehangach, sy’n cynnwys y sector gweithgynhyrchu digidol uchel ei werth, y sector awyrofod, y sector cerbydau awtonomaidd a’r sector gofal iechyd, ac mae hefyd yn canolbwyntio ar heriau cymdeithasol megis cynaliadwyedd a heneiddio’n iach.

Mae ein Canolfan ryngddisgyblaethol yn adeiladu ar ragoriaeth ymchwil Ysgol Peirianneg, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, sy’n enwog yn rhyngwladol.

Drwy ddod â’r arbenigedd cyfunol hwn ynghyd dan un faner, gallwn fanteisio’n llawn ar arbenigedd ymchwil drwy synergedd, gan hybu datblygiadau arloesol sy’n mynd i’r afael â rhai o’r heriau cymdeithasol pwysicaf.

Nod y Ganolfan yw sicrhau cynnydd o 18% mewn incwm ymchwil o ffynonellau cyllid y mae angen cystadlu amdano a ffynonellau cyllid preifat, a sicrhau’r effeithiau hirdymor canlynol:

  • Capasiti gwell a newydd ym maes ymchwil academaidd, a màs critigol cryfach ym maes deallusrwydd artiffisial, roboteg a systemau peiriant-dynol
  • Cyflawni ymchwil drawsnewidiol radical (Lefelau Parodrwydd Technoleg 1-4)
  • Statws cenedlaethol a rhyngwladol gwell i Gymru a Phrifysgol Caerdydd, sy’n sefydlu De Cymru fel ardal ragoriaeth
  • Mwy o gydweithredu â sefydliadau y tu allan i’r byd academaidd
  • Datblygu academyddion ac arloeswyr diwydiannol sy’n gweithio yng Nghaerdydd, gan sefydlu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil