Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi cyhoeddi ei fideo hyrwyddo newydd, ‘MAE’N BRYD!’, ar ei sianeli YouTube a chyfryngau cymdeithasol. Maent yn falch iawn o’r canlyniad, a dylen nhw fod, gyda fersiwn Gymraeg a Saesneg ar gael. Mae’r fideo’n canolbwyntio ar amddiffyn ein tirweddau yng Nghymru, gan ddod i gof ein treftadaeth yn y Cymoedd a gwerthfawrogi’r lleoedd gwyrdd rhyfeddol sydd gennym ar stepen ein drws!
Gallech helpu i ledaenu’r negeseuon pwysig hyn drwy rannu’r fideo. Peidiwch ag anghofio i dagio @LoveTheValleys a defnyddio hashnodau Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sef #caruycymoedd #lovethevalleys #PorthDarganfod a #DiscoveryGateways
Gwyliwch ‘MAE’N BRYD!’ ar YouTube
Gwyliwch ‘MAE’N BRYD!’ ar eu cyfrif Twitter
Gwyliwch ‘MAE’N BRYD!’ ar eu tudalen Facebook
Gwyliwch ‘MAE’N BRYD!’ ar eu cyfrif Instagram
Gwyliwch ‘MAEN BRYD!’ ar eu dudalen ar wefan TYR De-ddwyrain Cymru