Bydd JobSense yn darparu cymorth arbenigol i alluogi pobl sydd â nam ar y synhwyrau (h.y. pobl sy’n fyddar, sydd wedi colli eu clyw a/neu sydd â thinitws a phobl sy’n ddall neu sydd wedi colli eu golwg), i ddychwelyd/ail-ddychwelyd at gyflogaeth neu symud tuag at gyflogaeth. Mae’r prosiect yn agored i bobl sydd â nam ar y synhwyrau, sy’n 25 oed neu’n hŷn sydd yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar yn yr hirdymor.
Mae’r gweithrediad yn cynnig amrediad o ymyriadau sydd wedi’u teilwra at anghenion ac amgylchiadau’r cyfranogwyr a bydd yn cynnig sgiliau magu hyder a galwedigaethol a chymorth ymarferol â phroblemau trafnidiaeth. Bydd JobSense yn darparu cymorth i fusnesau i nodi a hwyluso swyddi gwag addas, ac yn sicrhau bod cyflogwyr yn fwy ymwybodol o anghenion pobl sydd â nam ar y synhwyrau a’r dulliau cymorth sydd ar gael iddynt.
Mae’r prosiect yn weithredol ar draws ardal rhaglen Dwyrain Cymru.
Mae’n rhaid i gyfranogwyr fod yn 25 oed neu’n hŷn; bod yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar yn yr hirdymor; byw yn un o’r ardaloedd canlynol: Caerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Powys, Sir y Fflint, Wrecsam. Mae’n rhaid bod gan y cyfranogwyr nam ar y synhwyrau.
Martin Griffiths
Action on Hearing Loss
Martin.griffiths@hearingloss.org.uk
Zoe Gambling
Elite Supported Employment Agency (Caerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, De Powys)
Clare Lewis
COS (Gogledd Powys, Sir y Fflint, Wrecsam)