Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos

Sarah Day, Rheolwr Cyfathrebu

Astudiaeth Achos

Luke Cornish, Cyd-sylfaenydd

Astudiaeth Achos

John Davey, Cyfarwyddwr

20Twenty (Arwain Twf Busnes Dwyrain Cymru)

Disgrifiad o’r prosiect

Nod y Rhaglen Arwain Twf Busnes 20Twenty yw helpu sefydliadau uchelgeisiol yn Nwyrain Cymru i gyflawni twf cynaliadwy, trwy ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i reolwyr, arweinwyr a pherchnogion gyflawni gwell effeithlonrwydd, cynllunio strategaethau twf a gweithredu nodau ehangu.

Bydd y rhaglen yn galluogi cyfranogwyr i ennill cymwysterau, cynllunio cynllun twf busnes, elwa ar swyddog hyfforddi ar sail unigol yn eu gweithle, datblygu gwytnwch meddyliol i negodi’n llwyddiannus, datblygu strategaeth arloesol er mwyn estyn i farchnadoedd newydd a datblygu sgiliau allweddol mewn marchnata, cyllid, rheoli newid a darbodusrwydd. Hon yw’r unig raglen yng Nghymru sy’n cynnig llwybr datblygu o Lefel 3 Sefydliad Rheolaeth Siartredig i Lefel 7, gan arwain at Dystysgrif Ôl-raddedig a Meistr Gweinyddiaeth Busnes Gweithredol.

Bydd y rhaglen yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu cyfres unigryw o sgiliau pobl a busnes y gallant eu defnyddio ar unwaith yn y gweithle er mwyn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant, proffidioldeb a chystadleurwydd. Mae’r prosiect yn cynnwys yr holl ddeunyddiau addysgu, aelodaeth o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig, hyfforddiant gweithredol ar sail unigol, a thiwtor personol i helpu â’r asesiadau dewisol.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect ledled ardal rhaglen Dwyrain Cymru.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Mae’n rhaid bod cyfranogwyr naill ai yn gweithio neu’n byw yn ardal rhaglen Dwyrain Cymru. Mae’r prosiect yn targedu yn benodol:

  • darpar reolwyr
  • is-reolwyr
  • arweinwyr tîm
  • rheolwr canol
  • uwch reolwyr
  • perchnogion busnes
  • Prif Swyddogion Gweithredol o gwmnïau bach i gwmnïau angori mawr yn Nwyrain Cymru.

Manylion cyswllt

Enw: Christopher Byrne
E-bost: cbyrne@cardiffmet.ac.uk
Rhif ffôn: 029 2041 6300
Cyfeiriad: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Caerdydd, CF5 2YB
Gwefan: Website