Cronfa Arloesi Newydd ar gyfer CCR

Ebr 28, 2022

Mae dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y camau terfynol o ddatblygu Cronfa arloesi newydd gwerth £50m i ddarparu cyfalaf tymor estynedig ar gyfer busnesau sy’n cael eu harwain gan arloesi sydd eisiau ehangu yn y Brifddinas-Ranbarth.

Bydd y Gronfa’n cael ei rheoli gan Reolwr Cronfa allanol a benodir ym mis Mai a bwriedir ei lansio ddiwedd yr Haf neu ddechrau’r Hydref unwaith y bydd y Cabinet Rhanbarthol wedi rhoi ei gymeradwyaeth.

Bydd yn agored i unrhyw fusnes a arweinir gan arloesi i wneud cais am fuddsoddiadau ecwiti sydd rhwng £2 a £7m. Bydd angen i arloesi fod wrth wraidd twf busnes, ac felly disgwylir i Ymchwil a Datblygu fod yn agweddau amlwg ar y busnesau sy’n llwyddiannus gyda’u cais.

Bydd disgwyl hefyd i fusnesau ddangos tystiolaeth o gyd-fynd â nodau a chanlyniadau craidd y Rhanbarth Dinesig. Er enghraifft, creu swyddi gwerth uchel yn y rhanbarth yn hytrach na swyddi mewn canolfannau galw neu ganolfannau dosbarthu.

Bydd ar agor am tua phump i saith mlynedd, ond os oes digon o alw yn y farchnad mae potensial i ddarparu cyllid ychwanegol ac ymestyn oes y Gronfa.

Mae buddsoddiadau unigol yn debygol o gael eu gwneud ar sail pump i ddeng mlynedd gan nad diben y gronfa yw cynhyrchu ROI cyflym, ond darparu’r cyfalaf tymor estynedig sydd ei angen ar y busnesau hyn. Ni fydd yn cefnogi busnesau newydd neu gwmnïau deillio, ac ni fydd chwaith yn darparu cyllid dyled.

Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion, gan gynnwys strategaeth fuddsoddi lawn, cyn gynted ag y byddant ar gael.