Bydd Laura Roberts, eu Cydlynydd Rhanbarthol ym Mhrifysgol De Cymru, yn cynnal y podlediad, gan gyfweld â gwesteion o bob rhan o Gymru a’r tu hwnt am eu rolau mewn meysydd STEM.
Mae’r podlediad yn dilyn llwyddiant eu rhaglen GiST (Girls in Science and Technology / Merched mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg), sef cyfres o weminarau lle mae menywod mewn meysydd STEM yn dangos eu swyddfeydd i blant ysgol a thrafod eu swyddi cyn ateb cwestiynau a ofynnir iddynt gan y mynychwyr. Gyda dros 300 o fynychwyr cofrestredig ers iddi gael ei lansio ym mis Medi, mae’r rhaglen wedi ennill llawer o gefnogaeth. Nod y podlediad yw dod â’r un cyngor i gynulleidfaoedd unrhyw le er mwyn iddynt allu gwrando yn eu hamser eu hunain.
Darganfyddwch fwy am y rhaglen GiST ar wefan Technocamps.
Bydd penodau’n cael eu rhyddhau bob wythnos yn ystod y tymor a bydd pob pennod tua hanner awr o hyd. Mae’r podlediad yn addas i ferched rhwng 11 a 18 oed yng Nghymru, ond bydd y sioe ar gael i gynulleidfa lawer ehangach trwy wefan technocamps.com/cy/ a phob un o’r prif blatformmau ffrydio, gan gynnwys Spotify ac iTunes.