Newyddion PRC

Meh 30, 2022

CCR yn buddsoddi £1.6miliwn yn FinTech Cymru

Ddechrau mis Mehefin, cyhoeddodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) fuddsoddiad pum mlynedd o £1.6 miliwn i FinTech Wales, y gymdeithas aelodaeth annibynnol nid-er-elw a hyrwyddwr y diwydiant technoleg ariannol (FinTech) a gwasanaethau ariannol yma yng Nghymru.

Fel rhan o’r buddsoddiad hwn dros bartneriaeth pum mlynedd rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a FinTech Wales, bydd y ddau sefydliad yn cydweithio’n agos i gyflawni uchelgais Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i helpu i sefydlu Cymru fel sector technoleg ariannol blaenllaw yn y DU.

FinTech yn un o 5 ‘clwstwr cystadleuol’ allweddol CCR, a’r lleill yw: Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Diwydiannau Creadigol, MedTech a Seiber. Uchelgais hirdymor CCR yw adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes ar waith a chreu clwstwr FinTech blaenllaw yn y DU.

Dywedodd Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, “FinTech Wales yw’r partner cywir i helpu i gyflawni’r uchelgais hon a bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn helpu’r sefydliad i ymateb i’r cyfleoedd sy’n prysur esblygu yn y farchnad hon, yn ogystal â helpu’r clwstwr FinTech cyffredinol yng Nghymru i ddatblygu ei gyfeiriad strategol ei hun ymhellach. Hefyd, rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn cyfrannu rhywfaint at greu cronfa dalent bwrpasol a gwella llwybrau sgiliau fel bod busnesau FinTech yn gallu recriwtio’r sgiliau a’r doniau sydd eu hangen i fynd o nerth i nerth, yn ogystal â denu mewnfuddsoddiad i’r rhanbarth.”

Sefydlwyd FinTech Wales ym mis Gorffennaf 2019, ac mae eisoes wedi meithrin a chefnogi busnesau yng Nghymru yn ogystal â sefydlu map ffordd i sefydlu Cymru fel grym yn y gymuned FinTech fyd-eang.

Yn ei blwyddyn gyntaf, aeth y gymdeithas ati i sefydlu Bwrdd Cynghori o 20 o bobl gan gynnwys cynrychiolaeth o gwmnïau Cymreig fel Confused.com, Admiral, The Principality, Capital Law ac Acquis Insurance.

Meddai Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredol FinTech Wales, am y buddsoddiad: “Mae hyn yn ein galluogi i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd dros y 12 mis diwethaf gan gadarnhau mai Cymru yw Y lle i gychwyn, cynyddu a chyflymu busnesau FinTech arloesol, ac ychwanegu gwerth at economi Cymru.”

Rhagor o wybodaeth am FinTech Wales yn www.fintechwales.org.

Cyllid ar gyfer canolfan arloesi seiber newydd

Bydd Canolfan Arloesi Seiber (CIH) newydd i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes seiberddiogelwch ar waith yn ddiweddarach eleni ar ôl denu ymrwymiadau cyd-fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a phartneriaid yn y diwydiant.

Mae Llywodraeth Cymru a Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn buddsoddi £3 miliwn yn y Ganolfan newydd dros ddwy flynedd, gyda £3.5 miliwn arall o arian cyfatebol gan bartneriaid y consortiwm yn cynyddu’r buddsoddiad cychwynnol i £9.5 miliwn. Disgwylir y bydd y Ganolfan Arloesi Seiber yn denu cyfanswm o £19.9 miliwn o gefnogaeth dros bum mlynedd.

Mae’r cyllid ar gael i gonsortiwm dan arweiniad Caerdydd i ddatblygu’r bartneriaeth gyda chydweithredwyr gan gynnwys Airbus, Alacrity Cyber, CGI, Thales NDEC, Tramshed Tech, a Phrifysgol De Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyd-ariannu cenhadaeth y Ganolfan Arloesi Seiber i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o glystyrau seiber mwyaf blaenllaw’r DU erbyn 2030. Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw arloesi ym maes seiber o ran cefnogi a diogelu’r broses o rannu gwybodaeth, law yn llaw â chynnig data a dealltwriaeth er mwyn helpu’r rhanbarth i symud ymlaen a thyfu.”

Ychwanegodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU  “… bydd hyn yn dod â swyddi a thwf i’r ardal yn ogystal â rhoi Cymru wrth wraidd y diwydiant seiberddiogelwch.”

Wedi’i ddatblygu dan gyfarwyddiaeth Pete Burnap, Athro Gwyddorau Data a Seiberddiogelwch, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, nod y Ganolfan Arloesi Seiber yw rhoi hwb i nifer y busnesau seiberddiogelwch sydd wedi’u hangori yma yn y De-ddwyrain, a gwella sgiliau seiberddiogelwch er mwyn ehangu ac arallgyfeirio’r gronfa dalent seiberddiogelwch. Bydd y buddsoddiad yn ysgogi dull cydlynus o ymdrin â sgiliau, arloesi a chreu mentrau newydd, sy’n unigryw yn y DU.

Nod y Ganolfan erbyn 2030 yw:

  • Creu o leiaf 27 o fusnesau seiberddiogelwch newydd – gan ehangu’r sector seiberddiogelwch yng Nghymru fwy na 50% o ran nifer y busnesau;
  • Denu dros £20 miliwn mewn buddsoddiad ecwiti preifat;
  • Uwchsgilio ac ailsgilio tua 1750 o unigolion seiber-fedrus a chreu sbardun cydgysylltiedig ar gyfer cynhyrchion newydd, busnesau twf uchel a thalent yn y rhanbarth;
  • Helpu i ddenu ac angori’r dalent seiberddiogelwch orau yng Nghymru, a fydd o fudd i’r economi sylfaenol leol hefyd.

I gael gwybod mwy am waith y Ganolfan, e-bostiwch yr Athro Pete Burnap, Cyfarwyddwr CIH  (burnapp@cardiff.ac.uk)

Gwefan newydd ar gyfer Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi lansio gwefan newydd ar gyfer y gronfa sydd â’r nod o ysgogi arloesedd yn y Sector Cyhoeddus

https://www.challengefund.wales/cy/

Mae’r gronfa her o £10 miliwn ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus yn bennaf, ac mae’n ceisio cynnig atebion i broblemau lle nad oes atebion hysbys a bydd yn allweddol i helpu i ddatrys rhai o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau trydydd sector ledled y rhanbarth.

Clywed fwy am y datblygiad hwn gan Liz Rees, Swyddog Prosiect y Gronfa Her.