
Yn ddiweddar mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi dathlu cyflawniadau niferus, fel agor hwb Gwaith Llesiant newydd sbon ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain. Mae’r hwb gwaith hwn yn rhan o gyfres o welliannau a wnaed i’r parc ac mae’n darparu opsiwn arall yn lle gweithio o bell gan fwynhau buddion lles natur a bioamrywiaeth.
Yn ogystal â hyn, mae saith o’n deuddeg safle Porth Darganfod wedi derbyn Gwobr Baner Werdd 2020/21. Mae hwn yn gyflawniad enfawr ac mae’n wych gweld ein safleoedd partner yn cynrychioli’r safonau ansawdd uchel ar gyfer parciau, gwarchodfeydd a mannau gwyrdd sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru.
Mae ein Cynllun Gwarcheidwaid VRP yn parhau i ddarparu gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar natur ar draws ein Pyrth Darganfod ar gyfer cymunedau, ynghyd â mynychu ysgolion cynradd amrywiol ar draws y Cymoedd i weithio gyda phlant ac oedolion i ddarparu sgiliau tyfu bwyd ar y cyd â phrosiect Big Bocs Bwyd.
Ar 28ain Hydref, lansiodd Parc Rhanbarthol y Cymoedd ei ymgyrch gyntaf o’r enw ‘Mae yn ein Natur ni’. Bydd yr ymgyrch hon yn rhychwantu’r ddwy flynedd nesaf gan ganolbwyntio ar y partneriaethau parhaus ar draws y Cymoedd, a’r buddion amgylcheddol a chymdeithasol mae’r prosiectau’n eu creu ar gyfer cymunedau lleol a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymoedd De Cymru.