Technoleg: Dadansoddi Data
Sector: Adloniant Chwaraeon
Lleoliad: Caerdydd
Heddiw mae sylwebwyr chwaraeon a digwyddiadau yn dibynnu o hyd ar systemau hen ffasiwn fel gwybodaeth ar ffurf twmpathau o ddogfennau wedi’u hargraffu, a gwneud nodiadau llafurus mewn ffordd sylfaenol gan ddefnyddio beiro a phapur. Mae’r ddau ddull o weithio’n cyflwyno nifer o broblemau ar gyfer y swyddi cyflym hyn: trefniadaeth wael, anhygyrchedd, adfer gwybodaeth berthnasol yn araf, diogelu rhag y tywydd, ac ati.
Rhoi pecyn adnoddau digidol i sylwebwyr
Cysylltodd yr asiantaeth chwaraeon Temporal Junction â CEMET gyda’r gobaith o wneud y defnydd gorau posib o dechnolegau symudol a’r ffynonellau data sydd ar gael i roi pecyn adnoddau digidol i sylwebwyr ar gyfer paratoi, trefnu a chael mynediad at ffeithiau a ffigurau am eu digwyddiadau chwaraeon sydd i ddod.
Dechreuodd Temporal Junction a CEMET weithio ar ap prawf o gysyniad yn canolbwyntio ar bêl droed proffesiynol ond gyda’r sylfaen ar gyfer datblygu yn y dyfodol i ymgorffori chwaraeon a digwyddiadau eraill.
Yn cynnig cefnogaeth cyn gêm ac yn fyw yn ystod gêm
Yn ystod y gwaith cynllunio a datblygu, defnyddiodd Temporal Junction brofiadau eu cyd-sylfaenydd, cyn bêl droediwr rhyngwladol Cymru a sylwebydd pêl droed lefel uchel presennol Cymru, Nathan Blake, i roi gwybodaeth am ofynion apiau ac i gysylltu CEMET â chymuned o sylwebwyr chwaraeon ar gyfer adborth rheng flaen.
Y canlyniad – ap sy’n cefnogi sylwebwyr cyn gêm ac yn fyw yn ystod gêm. Yn lle cribo drwy nifer o wefannau a chasglu data yma ac acw, mae’r ap, gan ddefnyddio APIs presennol, yn darparu pwynt canolog ar gyfer gwybodaeth fanwl ac ystadegau am chwaraewyr, timau a gemau o fewn rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio sy’n caniatáu ar gyfer achosion defnydd o’r fath, fel cymharu record sgorio goliau chwaraewyr, sut mae timau wedi bod yn chwarae gartref ac oddi cartref a llawer mwy.
Buddugoliaeth i sylwebaeth chwaraeon
Mae sylwebwyr hefyd yn gallu cofnodi nodiadau yn gyflym drwy dechnoleg lleferydd-i-destun ar gyfer diwrnod gêm. A gyda sylwebaeth fyw yn y gêm maent bellach yn cael data perthnasol am gemau, timau a chwaraewyr a gallant gofnodi a mewnbynnu digwyddiadau gemau wrth iddynt ddigwydd mewn llinell amser fyw.
Bydd y platfform newydd a chyffrous hwn yn parhau i gael ei ddatblygu gan Temporal Junction gyda chefnogaeth barhaus CEMET.
I ddarganfod mwy am Temporal Junction edrychwch ar footprints-sm.com.