ReAct 3
Disgrifiad o’r prosiect
Mae gweithrediad ReAct yn cynnig cymorth i bobl sydd wedi eu diswyddo neu sydd mewn perygl o gael eu diswyddo, i ddod o hyd i swydd newydd mor fuan â phosib ar ôl iddynt gael eu diswyddo.
Mae’r prosiect yn cynnig pecyn cymorth a all helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, goresgyn rhwystrau a gwella eu siawns o ddychwelyd i’r gwaith. Mae hyn yn cynnwys:
Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd yn rhad ac am ddim gan Gyrfa Cymru, grantiau hyfforddi galwedigaethol a chymhorthdal cyflog i gyflogwyr sy’n recriwtio.
Cwmpas daearyddol
Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru
Meini prawf cymhwyster hanfodol
- Unigolion sydd yn ddi-waith oherwydd eu bod wedi eu diswyddo yn ystod y 3 mis diwethaf neu sydd wedi derbyn rhybudd eu bod am gael eu diswyddo
- Unigolion nad ydynt wedi gweithio am fwy nag 16 awr mewn wythnos am 5 wythnos neu fwy ers dyddiad eu diswyddo
- Unigolion sy’n byw yng Nghymru ar ddyddiad eu diswyddo a dyddiad eu cais am grant.
- Unigolion sydd â hawl cyfreithiol i fyw a gweithio yn y DU
Manylion cyswllt
E-bost: Sasha.davies@careerswales.com
Rhif ffôn: 0800 028 48 44
Cyfeiriad: Careers Wales, Uned 21, Rhodfa’r Gogledd, Cwmbran, NP44 1PR
Gwefan:
Twitter:
Manylion ychwanegol
Careers Wales tudalen diswyddiad
Gwefan Business Wales
Twitter Business Wales