ReAct+

Meh 30, 2022

Yn ddiweddar, cafodd ReAct+, rhaglen gyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru, ei lansio ddechrau mis Mehefin – rhaglen newydd sy’n cynnig cymorth cyflogaeth personol am ddim i helpu pobl i gamu ymlaen i swydd barhaus.

Nod y rhaglen yw helpu i ddileu’r bwlch mewn diweithdra ac anweithgarwch economaidd drwy ymateb i anghenion unigolion ac unrhyw rwystrau posibl sy’n eu hwynebu, fel bylchau o ran sgiliau, gwella hyder a lles.

Prif nod y rhaglen yw helpu’r rhai sydd wedi dod yn ddi-waith o fewn y deuddeg mis diwethaf neu wedi cael rhybudd diswyddo, yn ôl i fyd gwaith. Fel rhan o’r Warant i Bobl Ifanc, bydd ReAct+ yn helpu pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed hefyd nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Mynd i wefan Pecyn Cymorth React+.