Dathlu cyflawniadau cyflogadwyedd rhanbarthol

Rha 16, 2022

Ddydd Gwener, 25 Tachwedd, cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ddigwyddiad yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru. Cyngor Torfaen yw’r buddiolwr arweiniol ar gyfer Pontydd i Waith 2, Sgiliau Gweithio ar gyfer Oedolion 2 a Meithrin, Darparu, Ffynnu (NET). Roedd y digwyddiad yn gyfle i holl aelodau staff y tri Gweithrediad a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ddod ynghyd i ddathlu’r gwaith a gyflawnwyd dros y saith blynedd ddiwethaf a myfyrio arno.

Er 2015, mae’r gweithrediadau wedi cefnogi mwy nag 11,000 o gyfranogwyr i gyd. Mae Pontydd i Waith wedi helpu 1084 o gyfranogwyr economaidd anweithgar neu bobl a fu’n ddi-waith am gyfnod hir i gael cyflogaeth am dâl ac mae mwy na 1100 o bobl wedi cwblhau lleoliad gwirfoddoli.  Ar draws y prosiectau, mae 5800 o gyfranogwyr wedi cwblhau cyrsiau hyfforddiant am ddim a sicrhau o leiaf un cymhwyster.

Mae NET wedi galluogi mwy na 750 o gyfranogwyr a oedd wedi’u tangyflogi i wella eu sefyllfa o ran y farchnad lafur trwy sicrhau gwell gwaith am dâl, cynyddu eu horiau gweithio, neu symud o gontractau cyflogaeth cyfnod byr i gontractau parhaol. Ar ben hynny, mae NET wedi canolbwyntio ar wella iechyd a llesiant pobl sy’n gweithio. Cafodd mwy na 500 o gyfranogwyr â chyflwr iechyd neu anabledd gwaelodol a oedd yn cyfyngu ar eu gallu i weithio gymorth i wella eu rhagolygon gwaith neu i aros yn y gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb hirdymor.

Ymunodd mwy na 75 o aelodau staff o Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, CBS Pen-y-bont ar Ogwr, CBS Caerffili, CBS Merthyr Tudful a CBS Torfaen yn y digwyddiad. Mae’r prosiectau bellach yn eu misoedd gweithredu olaf ond os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y tri gweithrediad a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cysylltwch â Matthew Davies, Uwch-reolwr Gweithrediadau a Gyllidir yn y cyfeiriad matthew.davies@torfaen.gov.uk.