Cronfa gwerth £150 miliwn gan lywodraeth y DU yw’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF) sy’n helpu grwpiau cymunedol i ddiogelu, drwy berchnogaeth gymunedol, asedau yn eu hardal leol sydd mewn perygl o fynd yn angof.
Gall grwpiau wneud cais am hyd at £250 mil o arian cyfatebol er mwyn helpu i gymryd yr awenau neu redeg ased, er bod hyd at £1 miliwn ar gael ar gyfer asedau chwaraeon mewn achosion eithriadol.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU brosbectws diweddaraf ar gyfer y Gronfa ddiwedd mis Mai gyda datganiadau o ddiddordeb i’w cyflwyno o 10 Mehefin. Bydd cyfnod rhwng 20 Mehefin a 19 Awst 2022 ar gyfer ceisiadau llawn gan rai sydd wedi llwyddo yn y cam datganiad o ddiddordeb.
Yn y cylch ariannu cyntaf, cafodd tri phrosiect yng Nghymru werth £464,258 o gyllid.
Isod mae’r prif newidiadau o’r rownd gyntaf i fod yn ymwybodol ohonynt:
Mae bwriad i gynnig cymorth datblygu yn y dyfodol ac mae Llywodraeth y DU wrthi’n caffael darparwr i gefnogi darpar ymgeiswyr. Rhagwelir y bydd hyn ar waith yn ddiweddarach eleni.
Nid yw’r meini prawf ar gyfer asesu ceisiadau wedi newid.
Cynghorir prosiectau i beidio â rhuthro gyda’u ceisiadau a’u cyflwyno pan fyddant yn barod. Nid yw’r dyddiadau ar gyfer dau gylch arall y flwyddyn ariannol hon wedi’u cadarnhau eto.