Bydd SESS yn ddatblygiad arloesi ac ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cynnig mynediad i brif gyfleusterau gwybodaeth ac ymchwil academaidd ar gyfer busnesau mawr, canolig a bach yn rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Bydd yn cael ei arwain ar sail galw gan gwmnïau sy’n treialu ac yn ymchwilio i dechnoleg, cynhyrchion a phrosesau newydd ac arloesol, gan ganolbwyntio ar storio ynni trydanol, gyda photensial masnachol cryf ar ôl y datblygiad ar gyfer busnesau. Bydd SESS yn mynd i’r afael â’r angen i lywio gweithgarwch ymchwil ac arloesi ym maes diwydiant yng Nghymru er mwyn sicrhau bod busnesau Cymru yn gwneud cymaint o gyfraniad â phosibl at dwf economaidd yn y dyfodol.
Bydd y rhaglen SESS yn defnyddio’r model cyflawni uniongyrchol o dan ambarél y Ganolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer (CAPSE), sy’n rhan o Brifysgol De Cymru. Mae gan CAPSE adeilad pwrpasol ar gampws Trefforest. Bydd Prifysgol De Cymru yn gyfrifol am reoli a chyflwyno’r gweithgareddau. Bydd yn gweithredu yn ardaloedd rhaglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Bydd yn defnyddio cyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan Amcan penodol 1.2.
Bydd y prosiect yn fuddiol i ardaloedd awdurdodau lleol ledled ardal rhaglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Bydd y gweithgareddau a gefnogir gan yr UE yn cael eu rhoi ar waith yn bennaf yn rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, a dylai busnesau neu bobl sy’n derbyn cymorth gan y prosiect gael eu lleoli yn yr ardal ddaearyddol honno. Fodd bynnag, bydd sefydliadau o’r tu allan i’r rhanbarth yn gymwys hefyd os ydynt yn gallu dod â buddion i ranbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Bydd sawl prosiect yn cael ei roi ar waith o dan raglen SESS, a disgwylir i’r prosiectau canlynol fod ar waith erbyn mis Gorffennaf 2019: