SPECIFIC yw Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth achrededig y DU sydd â chyfleusterau o safon fyd-eang sy’n cyfuno Ymchwil a Datblygu cymhwysol, gweithgynhyrchu peilot, integreiddio systemau ac arddangos adeiladu gyda datblygu busnes a masnacheiddio. Ein gweledigaeth yw creu ‘Adeiladau sy’n Orsafoedd Pŵer’ drwy ddatblygu ac integreiddio cenhedlaeth newydd o dechnolegau storio a rhyddhau gan ddefnyddio ynni solar.
Ariennir a rheolir SPECIFIC gan Brifysgol Abertawe, gyda phartneriaid strategol gan gynnwys TATA Steel, NSG, Akzo Nobel a Phrifysgol Caerdydd. Cefnogir gan gronfeydd strwythurol ERDF, Innovate UK a Chyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol. Gan ddatblygu ei thechnolegau ei hunan, yn ogystal â chydweithredu â phartneriaid diwydiannol, mae SPECIFIC yn datblygu prosesau arbrofi cysyniad, arddangoswyr ar raddfa labordy ac ar raddfa adeilad i arddangos potensial y weledigaeth Adeiladau sy’n Orsafoedd Pŵer. Yn ogystal â hynny, gall gydweithredu â chwmnïau wedi eu lleoli yn y Gorllewin ac yn y Cymoedd
Bydd y prosiect o fudd i ardaloedd awdurdod lleol yn ardal y rhaglen yn y Gorllewin a’r Cymoedd.
Mae gan SPECIFIC yr amcanion ERDF penodol canlynol yn y Gorllewin a’r Cymoedd:
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017
Mae SPECIFIC wedi datblygu’n llwyddiannus ac wedi ennill gwobrau gyda’i arddangosydd unigryw, sef yr ystafell ddosbarth weithredol gyntaf sy’n ynni positif. Adeiladwyd hon gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf o ran cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni.
Mae SPECIFIC hefyd yn creu arddangosyddion ar raddfa adeilad yn ei chyfleuster arddangos gwres gan ynni solar (SHED), lle gwresogir adeilad diwydiannol mawr gan ddefnyddio ynni solar yn unig. Mae’r technolegau a ddatblygwyd yn cynnwys systemau storio gwres yn ddyddiol ac yn dymhorol, er mwyn dal y gwres i’w ddefnyddio pan fo angen.
Mae SPECIFIC hefyd yn gweithio’n agos gyda chymdeithasau tai, megis Pobl, sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer cynllun tai cymdeithasol seiliedig ar dai ynni positif.