Astudiaethau achos Cadw’n Iach yn y Gwaith

Rha 16, 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy’n arwain y Gwasanaeth Cadw’n Iach yn y Gwaith a gyllidir trwy Flaenoriaeth 1 Cronfa Gymdeithasol Ewrop.  Mae’n cynnig cymorth i fusnesau micro, bach a chanolig yn ardal RhCT er mwyn sicrhau bod pawb a gyflogir yn ardal yr Awdurdod Lleol yn cael mynediad at wasanaethau cymorth ‘yn y gwaith’ sy’n rhoi sylw penodol i anghenion llesiant unigolion a datblygu polisïau cefnogol.

Astudiaeth achos Cleient A

Er mwyn cynorthwyo unigolion, mae’r prosiect yn cynnig cymorth clinigol i staff i wella gweithredu dyddiol a rheoli symptomau, gan alluogi pobl i ddychwelyd i’r gwaith neu barhau i weithio.  Nodir isod enghraifft o sut mae’r prosiect wedi helpu un o’r cleientiaid hyn.

Cafodd y cleient ei hatgyfeirio i dîm Cadw’n Iach yn y Gwaith gan ei rheolwr llinell, a oedd wedi sylwi bod problem barhaus â chyd-weithiwr yn effeithio ar ei chymwyseddau gwaith. Roedd y cleient yn dioddef symptomau gorbryder ac wedi colli llawer o hyder yn ei gwaith.

Cymerodd y cleient ran mewn chwe apwyntiad adolygu wythnosol/pythefnosol trwy lwyfan rhithwir. Yn ystod yr apwyntiadau adolygu hyn, cafodd y cleient gymorth i drafod ei phroblemau cysylltiedig â’r gwaith mewn amgylchedd cyfrinachol ac anfeirniadol. Roedd hyn wedi caniatáu i’r cleient feithrin hyder, adnabod sbardunau a defnyddio strategaethau ymdopi effeithiol. Cafodd gymorth hefyd i weithio ar ei hawliau pendant a sut i roi’r rhain ar waith mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â’r gwaith.

“Rwy’n teimlo i mi gael gwrandawiad ac fe greodd Emma le diogel i mi rannu’r hyn a oedd yn digwydd i mi. Rwy wedi adennill hyder a normaleiddio fy nheimladau, sydd wedi fy helpu i weld pethau yn eu gwir oleuni. Yn ystod fy sesiwn gyntaf, roeddwn i’n gysgod o’r hyn oeddwn i, yn emosiynol ac yn llawn hunanamheuaeth ond erbyn fy sesiwn olaf roeddwn i’n hyderus ac yn glir fy nghanolbwynt unwaith eto, ac wedi ailgynnau fy niddordeb angerddol yn y gwaith”.

Astudiaeth achos cymorth busnes

Yn ogystal â chynnig cymorth clinigol i unigolion, mae Cadw’n Iach yn y Gwaith hefyd yn helpu busnesau a’u staff i feithrin diwylliant o gydraddoldeb a llesiant trwy ddatblygu polisïau, strwythurau, prosesau ac ymddygiad cadarn.  Mae Pontus yn un o’r cwmnïau y buont yn gweithio gyda nhw yn ddiweddar.

Mae Pontus, yn Hirwaun yn cynnig gwasanaethau ymchwil a datblygu i’r sectorau dyframaethu, morol a dyfrol o ran datblygu cynhyrchion maeth ac iechyd.

Mae’r busnes am dyfu ac ehangu i safle ychwanegol yn y dyfodol agos. Yn rhan o’r cynllun twf hwn, roedd gofyn cael fframwaith cadarnach o bolisïau i gefnogi iechyd a llesiant y gweithlu. Yn ogystal, roedd angen bod y polisïau’n cynnig cymorth ac amddiffyniad i’r busnes, gan ei alluogi i weithio tuag at fod yn gyflogwr y mae’r gymuned yn dewis gweithio iddo.

Awgrymodd Cadw’n Iach yn y Gwaith bod angen adolygu polisïau presennol y cwmni o ran y gweithle a pholisïau ychwanegol i gefnogi llesiant y staff a sicrhau bod y fframwaith rheoli pobl yn fwy cadarn. Rhoddwyd yr ymyriadau hyn ar waith yn llwyddiannus wedyn ar y cyd â’r cwmni.

O ganlyniad, datblygwyd diwylliant yn y gweithle lle mae iechyd a llesiant y staff wedi gwella, gydag eglurder ynghylch yr hawliau, yr hawlogaeth, y disgwyliadau a’r cymorth sydd ar gael i’r cyflogeion.

Dywedodd Ivan Tankovski, y Cyfarwyddwr Ymchwil:

“Rwy’n falch o ddweud bod yr adborth ar ein polisïau presennol yn ddefnyddiol iawn, ond beth oedd yn well oedd y ffaith fod y rhaglen hon wedi caniatáu i ni fabwysiadu nifer o bolisïau newydd heb fuddsoddi adnoddau ychwanegol i’w hysgrifennu. Ers i ni roi’r polisïau ar waith, mae ein staff, a’n rheolwyr hefyd, yn llawer mwy ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. O ganlyniad, mae morâl y staff a’u llesiant cyffredinol wedi gwella. Byddwn i’n bendant yn argymell Cadw’n Iach yn y Gwaith i gwmnïau sydd â nifer cyfyngedig o weithwyr a/neu gyfalaf i ganolbwyntio ar ysgrifennu polisïau.”

Yn ogystal, dyfarnwyd cyllid i Pontus o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglenni Taleb Arloesi a Thaleb Arloesi a Mwy prosiect SMARTCymru Llywodraeth Cymru.  Defnyddiwyd y cyllid hwn i helpu’r cwmni i gyflwyno prosesau arloesol i’r busnes, a rhoi’r prosesau hyn a phrosesau a dewisiadau gwasanaeth newydd a gwell ar waith i’w helpu i dyfu ac ehangu’r busnes.