Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Cylchlythyr

Cliciwch i lawrlwytho Cylchlythyr 2017 (3ydd parti, Saesneg yn unig)

 

Cliciwch i lawrlwytho Cylchlythyr 2019

STEM Cymru 2

Disgrifiad o’r prosiect

Bydd STEM Cymru 2 yn adeiladu ar lwyddiant prosiect STEM Cymru i barhau i annog mwy o bobl ifanc rhwng 11 a 19 mlwydd oed i wneud pynciau STEM ac i wella cyraeddiadau ynddynt. Bydd y gweithrediad yn darparu amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau ymgysylltu a gweithgareddau STEM sy’n gysylltiedig â chyflogwyr mewn diwydiant.

Ei nod yw:

  • cyfrannu at gynnydd yn y niferoedd sy’n gwneud pynciau STEM  rhwng y rhai 11-19 oed er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg sylweddol o unigolion wedi eu cymhwyso’n briodol i sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol
  • cynyddu’r cyraeddiadau addysgol yn y pynciau STEM
  • helpu i leihau’r bwlch rhwng y rhywiau ym maes STEM
  • annog mwy o fyfyrwyr i wneud pynciau STEM ar gyfer safon A
  • codi ymwybyddiaeth o broblemau amgylcheddol

Targedir cefnogaeth at gynyddu lefelau’r cyraeddiadau mewn pynciau STEM ymhlith y rhai sy’n 11-19 mlwydd oed. Bydd y cyfranogwyr yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn caniatáu iddynt fod yn fwy hyblyg ac i allu addasu’n haws a byddant yn fwy ymwybodol o’r angen i gael sgiliau cyflogadwyedd, gan wella cyraeddiadau drwy ddefnyddio mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg mewn cyd-destunau ymarferol.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect ar waith ym mhob ardal ledled Cymru

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Disgyblion rhwng 11 a 19 mlwydd oed

Targedau penodol

Y grwpiau targed penodol ar gyfer y prosiect hwn fydd myfyrwyr ysgol a choleg rhwng 11 a 19 mlwydd oed, gyda phwyslais ar ymgysylltu â merched i’w hannog i wneud pynciau STEM, a bydd pwyslais arbennig ar ddatblygu diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes peirianneg.

Manylion cyswllt

Enw: Robert Cater
E-bost: bobcater@eesw.org.uk
Rhif ffôn: 01656 669381
Cyfeiriad: Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3WT
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter