Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Cyflymu Cymru i Fusnesau (Band Eang Cyflym Iawn ar Gyfer Busnes)

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Cyflymu Cymru Busnes yn rhaglen sy’n adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn Band Eang Cyflym Iawn yng Nghymru. Mae’n cynnig cymorth uniongyrchol i fusnesau ddeall, mabwysiadu a defnyddio technolegau digidol y mae band eang cyflym iawn yn ei wneud yn bosibl iddynt eu defnyddio.

Ynghyd â dewis eang o adnoddau ar-lein, mae’r rhaglen yn darparu dosbarthiadau meistr a gweithdai ar ystod eang o bynciau digidol â phwyslais ar fusnes. Eu nod yw helpu busnesau i ddeall y buddion y mae technolegau digidol yn eu cynnig i’w gweithredoedd bob dydd. Ategir y gweithdai ymhellach gan gyngor un i un a roddir gan dîm cenedlaethol o Gynghorwyr Digidol.

Model Cyflawni

Mae’r cymorth ar gael i fusnesau drwy:

https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy

neu drwy gysylltu â thîm Cyflymu Cymru i Fusnesau drwy linell ymholiadau Busnes Cymru: 03000 6 03000

Yn rhan o gynnig ehangach Busnes Cymru, mae taith y cwsmer yn dechrau drwy gysylltu â Chynghorwr Busnes Digidol i drafod meysydd allweddol o ddiddordeb a’u cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac ar gyfer y gweithdy neu ddosbarth meistr mwyaf priodol. Caiff busnesau wedyn eu cyfeirio at sesiwn un i un gyda Chynghorwr Digidol a fydd yn cynnig cynllun gweithredu sy’n seiliedig ar eu hanghenion.

Cefnogir y dysgu parhaus ar gyfer busnesau drwy gymorth ar-lein ychwanegol ac e-ddysgu.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.v

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Busnesau bach a chanolig (BBaChau) wedi eu sefydlu o bob sector ledled Cymru sy’n gymwys i gael cymorth.

Manylion cyswllt

Enw: Sarah Crosbie
E-bost: sarah.crosbie@gov.wales
Cyfeiriad: Llywodraeth Cymru, Llawr 1, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
Gwefan: Website
Facebook: Facebook